Swyddog Datblygu – Ymgysylltiad Ieuenctid / Cymdeithas Pel-Droed Cymru (FAW)

Lleoliad

Gweithio ystwyth gartref neu yn y swyddfa (Swyddfa Plant yng Nghymru, Caerdydd, swyddfeydd FAW yng Nghasnewydd, Caerdydd neu Wrecsam).

 

Oriau

21

 

Contract

Parhol

 

Cyflog

£33,864 (pro rata)

 

Dyddiad Cau

4 Rhagfyr 2023
(9am)

 

Rydym ni’n awyddus i benodi unigolyn deinamig, egnïol i’n helpu i gyflwyno ein prosiect cyffrous sydd newydd ei ariannu gan WCVA, mewn partneriaeth â Chymdeithas Pêl-droed Cymru (FAW).

Prif ddiben y rôl:

Bydd y Swyddog Datblygu yn gyfrifol am arwain, llywio ac estyn cwmpas ein model Cymru Ifanc presennol o ymgysylltu a chyfranogiad ieuenctid, i gefnogi mentrau ymgysylltiad ieuenctid FAW.

Mewn cydweithrediad agos â FAW, bydd gofyn bod deilydd y swydd yn darparu cyngor, arweiniad, dysgu a monitro proffesiynol i gefnogi mentrau ieuenctid FAW, gan sicrhau ymarfer cyfranogol trwy ddull gweithredu seiliedig ar hawliau, sy’n canolbwyntio’n gryf ar ddatblygu dysgu a sgiliau pobl ifanc.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant (CCUHP), yn arbennig Erthygl 12, yn sbardun allweddol y tu ôl i’r gwaith hwn, a bydd angen i ddeilydd y swydd ddangos arbenigedd o ran galluogi plant a phobl ifanc i gyfranogi’n effeithiol a sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed er mwyn llywio datblygiad polisi ac ymarfer, ochr yn ochr â grymuso plant a phobl ifanc.

 

Pecynnau cais isod