Mae’r mislif yn naturiol. Nid yw’n ddewis. Rydym i gyd yn ei gael, wedi’i gael, neu'n adnabod pobl sydd neu wedi’i gael.

Dydy'r mislif ddim yn 'fater i fenywod' yn unig, nac yn beth budr, ac yn bendant nid yw’n rhywbeth i gywilyddio yn ei gylch.

Ni ddylai neb fod o dan anfantais oherwydd mislif.

Pam ein bod am ddod â thlodi mislif i ben

Mae cael gwared o dlodi mislif yn golygu sicrhau nad yw cael mislif yn arwain at:

  • golli addysg
  • absenoldeb o’r gwaith
  • tynnu’n ôl o chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol

Mae tawelwch, stigma a thabŵau am y mislif wedi para gormod o amser. Ni ddylai menywod, merched a’r rhai sy’n cael mislif gael eu hamddifadu rhag cael y cymorth a’r nwyddau sydd eu hangen arnynt.

Mae tudalen we bwrpasol wedi’i datblygu sy’n cysylltu â’r cynllun ac adnoddau a gwybodaeth am y grant urddas mislif.

Cymru sy’n falch o’r mislif