Ewch i'n tudalennau Plant a Phobl Ifanc i ddysgu mwy am Hawliau Plant, Cymru Ifanc a phrosiectau eraill y gall Plant a Phobl Ifanc gymryd rhan ynddynt.
Darganfyddwch fwy
Dysgu | Cysylltu | Dylanwadu
Mae Plant yng Nghymru yn darparu gwybodaeth am swyddi gwag sydd ar gael yn y sector plant yng Nghymru. Mae’r swyddi gwag ar y dudalen yma yn cael eu harddangos yn yr iaith a ddefnyddiwyd i’w cyflwyno i Plant yng Nghymru.
Bu cynnydd o 2.6% yn y bobl ifanc o Gymru sy’n ymrestru mewn prifysgolion yn y Deyrnas Unedig a chynnydd o 9.2% yn yr ôl-raddedigion o Gymru, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Mae’r cynnydd hwn, o’r 96,780 o fyfyrwyr o Gymru a ymrestrodd yn 2018/19 i 99,310, yn dod â chyfnod o chwe blynedd o ostyngiad yn y niferoedd i ben. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn diwygio cyllid myfyrwyr yng Nghymru, gan gynnwys cynyddu cyfanswm y gefnogaeth sydd ar gael i £17,000 a mynd ati i helpu myfyrwyr gyda’u costau byw beunyddiol, yn ogystal â’r ffioedd dysgu. Roedd y diwygiadau hefyd yn cynnwys mwy o gefnogaeth i fyfyrwyr gradd Meistr, gan obeithio gwneud astudiaethau ôl-raddedig yn fwy hygyrch.