Rhieni a hawliau plant

Dogfen y cytunwyd arni’n rhyngwladol yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), sy’n cydnabod pwysigrwydd hawliau a rhyddid plant, a bob amser yn rhoi lles pennaf y plentyn gyntaf.  

Mae’n rhestr o hawliau sydd gan bob plentyn 0-18 oed, mae cyfanswm o 54 o hawliau, ac maen nhw’n cael eu galw’n ‘Erthyglau’.

Mae Erthyglau 3, 5 a 18 o CCUHP yn cydnabod ac yn cefnogi rhieni a theuluoedd a’u gwaith allweddol yn diogelu plant a gofalu amdanynt.  

Mae’n cydnabod bod rhieni/gofalwyr yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod hawliau eu plant yn cael eu cyflawni, gan fod hawliau’n cael eu diogelu yn y teulu’n gyntaf. O ganlyniad, mae’n bwysig bod rhieni/gofalwyr yn deall hawliau plant, a hefyd yn cael eu helpu i sicrhau eu bod yn cael eu gwireddu.  

I gael rhagor o wybodaeth am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn: 

Ewch i wefan UNICEF UK.

Lawrlwythwch grynodeb o CCUHP.

Lawrlwythwch boster â symbolau hwylus i blant.

Isod, cewch hyd i daflen a gynhyrchwyd i rieni er mwyn iddyn nhw ddeall yn well bwysigrwydd eu rôl yn hybu hawliau eu plant. Mae yna hefyd ddarluniad a gynhyrchwyd ar y cyd gan wirfoddolwyr Cymru Ifanc, sy’n cyflwyno CCUHP yn eu geiriau eu hunain.

Rydym yn falch o roi cyngor fel rhan o'n dull Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar ar gyfer plant 0–5 oed yng Nghymru; Mae nifer o daflenni wedi'u datblygu sy'n cynnwys:

Mae'r daflen A3 wedi cael ei datblygu ar gyfer ymarferwyr ac mae'r pedair taflen A4 wedi cael eu datblygu ar gyfer rhieni. Mae'r ddwy set yn cwmpasu Dyma fi! (0-12 mis) Rwy'n archwilio! (1-2 oed) Edrychwch arna i nawr! (2-3 oed) a Gwyliwch fi'n mynd, dyma fi'n dod! (3-5 mlwydd oed).