Cymorth a gwasanaethau ar gyfer rhieni yng Nghymru

Angen cymorth a chyngor ar unrhyw agwedd o rianta a bywyd teuluol - cyswllt

Sgwrs 1:1 - Parent Talk (actionforchildren.org.uk)

Rhianta a Chymorth i Deuluoedd - Family Lives (Parentline Plus) | Bywydau Teuluol

 

Cymorth gan Lywodraeth Cymru

Mae Teulu Cymru wedi cyrraedd ar gyfer rhieni, gofalwyr a theuluoedd plant 0-18 oed, i’w cyfeirio i’r mannau cywir ar gyfer ffynonellau gwahanol Llywodraeth Cymru o gefnogaeth ymarferol ac ariannol.

O gynghorion magu plant a chyngor datblygu arbenigol, i help gyda chostau gofal plant – mae’r Teulu’n hwyluso cyrchu’r cymorth yma i gyd o un man.

Croeso i’r Teulu!

 

Datblygwyd Magu Plant. Rhowch amser iddo gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ymarferol am fagu plant yn gadarnhaol i rieni a rhoddwyr gofal sy’n gyfrifol am fagu plant hyd at 18 oed.  

Fe’i datblygwyd gydag ystod o sefydliadau a gweithwyr proffesiynol, yn cynnwys seicolegwyr, ymwelwyr iechyd, academyddion ac arbenigwyr ar fagu plant, i roi cyngor arbenigol. 

Mae’r wefan yn rhoi awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol ar eich holl heriau magu plant, o fabanod newyddeni i arddegwyr. Mae’n cwmpasu ystod aruthrol o bynciau, ac yn cynnwys cynghorion gwych, taflenni gwybodaeth, fideos a dolenni i lu o sefydliadau sy’n gallu darparu mwy o gymorth a chefnogaeth.

 

Gwasanaethau Cymorth Lleol

Dysgwch am y gwasanaethau cymorth rhianta sydd ar gael yn eich ardal leol.  
Cliciwch ar ardal eich awdurdod lleol isod i gael gwybod mwy.