Bywyd fel rhiant yng Nghymru

Gofynnodd Cyswllt Rhieni Cymru i rieni anfon llun atyn nhw, a geiriad addas i gyd-fynd ag ef oedd yn crisialu ‘Bywyd Rhiant’. Dyma oriel o’r lluniau a anfonwyd i mewn. Mae’r ffotograffau hyn yn creu darluniad lliwgar, cyfoethog o fywyd beunyddiol rhieni ar draws Cymru.  Bu rhieni hefyd yn creu gwaith celf yn rhan o’n proses ymgynghori, lle defnyddiwyd gweithdai creadigol i ymgysylltu â rhieni. Dyma arddangosfa o’r gwaith celf hardd a grëwyd gan rieni. Mae capsiwn byr wrth bob darlun, yn egluro neges allweddol y gwaith celf.

Oriel ffotograffau

Oriel ffotograffau yn arddangos lluniau a dynnwyd gan rieni sy’n ymwneud â Cyswllt Rhieni Cymru i ddarlunio ‘Bywyd rhiant’.

Arddangosfa gelf

Cyfle i gael cipolwg ar y gwaith celf a grëwyd gan rieni fel rhan o’n proses ymgynghori, lle buon ni’n defnyddio dulliau creadigol o ymgysylltu â rhieni a gofalwyr.

Ffeithlun

Mae’r ffeithlun yma’n crynhoi prif ganfyddiadau arolwg ar-lein a phôl Mentimeter y bu rhieni/gofalwyr yn rhan ohonynt.

Fideo

Fideos yn arddangos lluniau a dynnwyd gan rieni sy’n ymwneud â Cyswllt Rhieni Cymru i ddangos ‘Bywyd fel rhiant’.