Cyflwr Hawliau Plant yng Nghymru

Gweminar Cyflwr Hawliau Plant yng Nghymru

Ym mis Rhagfyr 2022 cyflwynodd Grŵp Monitro CCUHP Cymru, a hwyluswyd gan Plant yng Nghymru, adroddiad Cyflwr Hawliau Plant yng Nghymru i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Yn y gweminar hwn clywodd cynrychiolwyr gan ddau o gyfranwyr yr Adroddiad a'r cynrychiolwyr yn sesiwn Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig - Sean O'Neill (Plant yng Nghymru) a Dr Rhian Croke (Canolfan Gyfreithiol y Plant, Prifysgol Abertawe) - ochr yn ochr â Arthur Isaac yn cynrychioli Cymru Ifanc - a gyflwynodd rhai o brif faterion yr adroddiad a cynnig eu myfyrdodau ar y broses arholi a'u gobeithion cyn archwiliad Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Lywodraethau'r DU a'r Llywodraethau Datganoledig ym mis Mai. 

 

"Roedd pob rhan yn addysgiadol ac yn cael ei ychwanegu tuag at bersbectif cyfan. Roedd yn dda gwybod bod plant sy'n derbyn gofal a'r rhai oedd yn trosglwyddo i fod yn oedolion yn cael eu canolbwyntio ar"

"Popeth yn ddiddorol iawn, Roedd Arthur yn anhygoel"

"Roeddwn i'n llai ymwybodol o sut roedd adroddiad y Bobl Ifanc a'r broses honno'n gweithio, felly yn ddefnyddiol iawn"