Ddydd Sadwrn, 16 Tachwedd 2024, nododd Plant yng Nghymru 10fed pen-blwydd Cymru Ifanc yng Ngŵyl flynyddol Cymru Ifanc, a gynhaliwyd yn Spark, Caerdydd. Yn ystod y digwyddiad cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) y sefydliad, lle cafodd Adroddiad Effaith 2023-2024 ei ryddhau’n swyddogol.
Gallwch chi ddarllen Adroddiad Effaith llawn Plant yng Nghymru 2023-2024 yma: Adroddiad ar Effaith 2023-24
Croesawodd y Cadeirydd, Helen Mary Jones, y rhai oedd yn bresennol, ac ar ôl yr agenda arferol, cyflwynodd y Prif Weithredwr, Hugh Russell, yr adroddiad swyddogol. Mae’r Adroddiad Effaith yn amlygu’r gwahaniaeth sylweddol mae Plant yng Nghymru wedi’i wneud i’w aelodau, i fabanod, i blant, i bobl ifanc, ac i’r gymdeithas ehangach yng Nghymru.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf nodwyd 30 mlynedd o eiriol dros hawliau plant, a ddathlwyd trwy ryddhau llyfr dathlu’r 30 mlwyddiant, a ryddhawyd ar y cyd, "Aros, Chwarae, Ymlaen yn Gyflym: Taith Plant yng Nghymru.” Wrth gwrs, roedd 2023-24 yn llawer mwy na dim ond dathliad o gyflawniadau’r gorffennol wrth i ni barhau i symud ymlaen yn egnïol at ein gweledigaeth o Gymru lle mae hawliau pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cyflawni.
Mae’r ystadegau allweddol sy’n rhan o’r adroddiad yn arddangos y gwaith yma:
- Cynhaliodd Plant yng Nghymru 290 o sesiynau hyfforddi ar bynciau fel diogelu a hawliau plant, gyda mwy na 4,000 o bobl yn bresennol
- Mynychwyd 42 o gyfarfodydd a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru
- Cyfanswm o 200 o wirfoddolwyr Cymru Ifanc rhwng 11 a 25 oed
- Hwylusodd Cymru Ifanc gyfranogiad 643 o bobl ifanc mewn 16 Ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru – trwy grwpiau ffocws wyneb yn wyneb
- Clywyd lleisiau 3,097 o bobl ifanc trwy sesiynau ymgysylltu, arolygon, digwyddiadau ac ymgyngoriadau
Bu’r cyfarfod hefyd yn cydnabod cyfraniad Suman Bhogal fel Trysorydd, y daeth ei chyfnod yn y rôl i ben yn gynharach eleni. Er ein bod ni’n drist wrth golli aelod mor werthfawr, buon ni hefyd yn croesawu ymddiriedolwyr newydd a ymunodd â’r bwrdd yn swyddogol yn 2024.
Diolch i bawb oedd yn bresennol, i’r ymddiriedolwyr ac i’r staff am eich ymroddiad parhaus a’ch gwaith caled.