Adroddiad Cyflwr Hawliau Merched 2020
Mae Plan International UK wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol ar-lein, dan y teitl Adroddiad Cyflwr Hawliau Merched 2020.
Ynghylch gweithgaredd cyfredol y Senedd yng nghyswllt Cymal 37 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ac adfer teuluoedd yn achos plant digwmni sy’n ceisio ailymuno â’u teuluoedd yn y Deyrnas Unedig. Yr wythnos ddiwethaf, ysgrifennodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt AC a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AC, at yr Ysgrifennydd Cartref i gefnogi’r ymgyrch dros gadw a17 o Ddeddf 2018, sef y ddyletswydd i gyd-drafod â’r UE er mwyn parhau â threfniadau Dulyn III, a’r wythnos hon, atebodd Prif Weinidog Cymru gwestiwn yn y sesiwn lawn: https://record.assembly.wales/Plenary/6073?lang=en-GB
Heddiw, cyflwynodd y Dirprwy Weinidogion Ddatganiad Ysgrifenedig ar y mater hwn ac ar UASC yn fwy cyffredinol: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-plant-digwmni-syn-ceisio-lloches-yng-nghymru
Mae Plan International UK wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol ar-lein, dan y teitl Adroddiad Cyflwr Hawliau Merched 2020.