Prosiect hyfforddi wedi’i arwain gan rieni yw ‘Pontio’r Bwlch – Dathlu Gwahaniaeth’ a luniwyd i helpu gweithwyr proffesiynol ar draws Cymru i ddeall plant ag ADY a Niwrowahaniaeth yn well.
Datblygwyd yr hyfforddiant yn gyntaf gan Lleisiau Betws, grŵp cymunedol o rieni yng Nghasnewydd. Mae Lleisiau Betws yn cyfarfod bob tair wythnos i gysylltu, i rannu profiadau ac i sbarduno newid yn eu cymunedau.
Mae gan y rhieni hyn brofiad bywyd o fagu plant ag ADY/Niwrowahaniaeth, o fyw mewn cymunedau sy’n teimlo effaith tlodi, ac o geisio sicrhau’r gefnogaeth gywir i’w plant.
Yn eu geiriau eu hunain,
‘….Rydyn ni’n angerddol iawn ac am rannu ein profiad’
Llywiodd hynny’r syniad o lunio pecyn hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Datblygwyd y pecyn er mwyn: ·
- cynyddu ymwybyddiaeth o realiti bywyd i blant ag anghenion gwahanol a’u teuluoedd
- rhannu syniadau a chynghorion ymarferol i gefnogi plant a gwneud iddyn nhw deimlo bod pobl yn eu deall
- grymuso gweithwyr proffesiynol i deimlo’n fwy hyderus i roi cynnig ar ddulliau gweithredu newydd
- pontio’r bwlch rhwng rhieni a gweithwyr proffesiynol
- Cafodd yr hyfforddiant ei gydgynhyrchu mewn partneriaeth ag Achub y Plant Cymru.
Ehangu’r prosiect ar draws Cymru
Ers i’r hyfforddiant gael ei ddatblygu, derbyniodd y prosiect ragor o arian gan Lywodraeth Cymru. Mae Achub y Plant Cymru a Plant yng Nghymru wedi gweithio mewn partneriaeth i ehangu’r hyfforddiant i ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tydfil a Rhondda Cynon Taf.
Datblygwyd model cynaliadwy i hyfforddi’r hyfforddwyr a fydd yn cefnogi rhieni sydd â phrofiad bywyd i ddod yn hyfforddwyr yn eu cymunedau. Bydd y rhieni hyn wedyn yn gallu cyflwyno’r hyfforddiant yn eu cymunedau eu hunain.
Bydd y prosiect yn gwneud y canlynol:
- helpu mwy o bobl i ddeall ADY a niwrowahaniaeth
- cefnogi rhieni i rannu eu profiadau
- hyfforddi rhieni i ddod yn hyfforddwyr cymunedol
Nodau’r prosiect
Gobaith prosiect ‘Dathlu Gwahaniaeth’ yw gwella canlyniadau i blant ag ADY a niwrowahaniaeth. Cyflawnir hynny trwy roi cyfle i rieni a gweithwyr proffesiynol wneud y canlynol:
- meithrin ymddiriedaeth a pherthnasoedd cryfach
- gwella’r cyfathrebu rhwng teuluoedd a gweithwyr proffesiynol
- lleihau stigma, beirniadaeth a rhagfarn
- cryfhau’r cymorth i blant a theuluoedd
- cefnogi plant i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u deall
Rhieni yw’r ‘arbenigwyr trwy brofiad’ yn eu bywydau eu hunain. Drwy sicrhau bod eu profiadau wrth wraidd y rhaglen, bydd modd i weithwyr proffesiynol ddeall gwir anghenion plant a’u teuluoedd.
Cysylltwch â
Fatiha Ali, Swyddog Datblygu, Cyswllt Rhieni Cymru
fatiha.ali@childreninwales.org.uk