Ewch i'n tudalennau Plant a Phobl Ifanc i ddysgu mwy am Hawliau Plant, Cymru Ifanc a phrosiectau eraill y gall Plant a Phobl Ifanc gymryd rhan ynddynt.
Darganfyddwch fwy
Dysgu | Cysylltu | Dylanwadu
Profiad y Rhiant/Gofalwr – yng nghwmni Jolene, Kim ac Andi
Ymwadiad - safbwyntiau personol y cyflwynwyr sydd yn y podlediadau hyn. Mae’n bosib nad ydyn nhw’n cynrychioli’r holl brofiadau gydag ysgolion neu unigolion ar draws Cymru.
Cyfres yw hon sy’n trafod beth mae bod yn rhiant-ofalwr yn ei olygu mewn gwirionedd, grym profiadau bywyd a sut gall rhieni a gweithwyr proffesiynol weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth go iawn i gyflawni’r newid rydyn ni am ei weld ar gyfer plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Rhaglen hyfforddi a arweinir gan rieni yw Lleisiau Betws a seiliwyd ar brofiadau bywyd o lwybro trwy’r system ADY yng Nghymru. Mae ei gwreiddiau yn y gymuned, mewn ymddiriedaeth, ac yn y gred y gall teuluoedd a gweithwyr proffesiynol weithio ochr yn ochr i sicrhau gwell canlyniadau i blant.
Yn ystod y penodau hyn, byddwn ni’n rhannu sgyrsiau gonest, cipolygon ymarferol a’r realiti y tu ôl i bolisïau a phrosesau. Byddwn ni’n edrych ar beth sy’n gweithio a ddim yn gweithio, a’r hyn y mae angen ei newid er mwyn rhoi cymorth i deuluoedd sy’n dechrau wrth eu traed. Mae’r gyfres hon yn ymwneud â gwrando, dysgu ac adeiladu system sy’n rhoi’r plant yn gyntaf.
Os oes arnoch angen cymorth gyda bod yn rhiant/ofalwr, ewch i: -
Yn y bennod hon, rydym yn archwilio realiti bod yn ofalwr rhiant—cydbwyso'r gwobrau â'r blinder, yr unigedd a'r doll emosiynol, wrth daflu goleuni ar fylchau mewn cefnogaeth a pham mae hunanofal yn hanfodol, nid yn ddewisol.
Yn y bennod hon, rydyn ni’n trafod rhywbeth sy’n agos iawn at ein calonnau. Beth wnaeth i dair rhiant-ofalwr fod mor hy â chredu y gallen ni hyfforddi gweithwyr proffesiynol ynglŷn â sut i wneud gwahaniaeth i blant fel ein rhai ni.
Yn y bennod hon, rydyn ni’n mynd i drafod pecyn offer ADY Llywodraeth Cymru i Rieni-ofalwyr. Byddwn ni’n edrych ar y geiriau a’r realiti i ni fel rhieni-ofalwyr.
Yn y bennod hon, rydyn ni’n pwyllo ac yn meddwl am eiriau a glywir yn aml, sef ‘mae’n iawn i beidio â theimlo’n iawn’, ac yn dadansoddi beth sydd y tu ôl i’r geiriau hynny mewn gwirionedd.