Bu cynnydd o 2.6% yn y bobl ifanc o Gymru sy’n ymrestru mewn prifysgolion yn y Deyrnas Unedig a chynnydd o 9.2% yn yr ôl-raddedigion o Gymru, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Mae’r cynnydd hwn, o’r 96,780 o fyfyrwyr o Gymru a ymrestrodd yn 2018/19 i 99,310, yn dod â chyfnod o chwe blynedd o ostyngiad yn y niferoedd i ben.  Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn diwygio cyllid myfyrwyr yng Nghymru, gan gynnwys cynyddu cyfanswm y gefnogaeth sydd ar gael i £17,000 a mynd ati i helpu myfyrwyr gyda’u costau byw beunyddiol, yn ogystal â’r ffioedd dysgu.  Roedd y diwygiadau hefyd yn cynnwys mwy o gefnogaeth i fyfyrwyr gradd Meistr, gan obeithio gwneud astudiaethau ôl-raddedig yn fwy hygyrch.