Mae cyfres newydd o adnoddau wedi cael eu cynhyrchu gan y Prosiect Paratoi i wella gwybodaeth a dealltwriaeth pobl ifanc â phrofiad o ofal o’u hawliau a’r pethau y dylen nhw eu cael wrth gynllunio ar gyfer gadael gofal. Mae modd i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ddefnyddio’r adnoddau hyn er mwyn cefnogi pobl ifanc i bontio’n ddiogel o ofal, gan leihau perygl digartrefedd a sicrhau sefydlogrwydd tai ymhlith ymadawyr gofal.

Mae’r adnoddau’n canolbwyntio’n benodol ar feithrin gallu ariannol pobl ifanc, yn unol â’r themâu craidd a amlinellwyd yn nogfen Strategaeth Cynhwysiad Ariannol Llywodraeth Cymru:

1. Mynediad at wasanaethau credyd ac ariannol fforddiadwy;

2. Mynediad at wybodaeth ariannol, gan gynnwys cyngor ar ddyledion; a

3. Meithrin dealltwriaeth a gallu ariannol.

I gael rhagor o wybodaeth a mynediad i’r gyfres lawn o adnoddau, ewch i dudalen y Prosiect Paratoi ar ein gwefan: https://www.childreninwales.org.uk/cy/ein-gwaith/plant-syn-derbyn-gofal/prosiect-paratoi/getting-ready-project-resources/