Mae Plant yng Nghymru wedi lansio cyfres newydd o adnoddau ar y cyd â Chyngor Sir Gâr fel rhan o’r Prosiect Paratoi. Mae’r adnoddau hyn wedi’u bwriadu ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a phobl broffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc i helpu i hybu sgiliau bywyd ac annibyniaeth. Mae’r adnoddau’n ymdrin â phynciau fel Cyllidebu, Budd-daliadau a Phethau i’w Hawlio, Cyflogaeth, cynghorion siopa am fwyd, a chadw arian, eiddo ac unigolion yn ddiogel. Gallwch chi lawrlwytho’r adnoddau mewn fformat PDF neu ar ffurf ‘Padlets’. Mae pob adnodd wedi cael ei lunio i’w ddefnyddio ar ei ben ei hun os bydd angen, gyda rhai o’r adnoddau eraill a grewyd, neu fel rhan o un pecyn mawr o adnoddau. Mae pob adnodd yn cynnwys nifer o ddolenni i wefannau, lle cewch chi ragor o wybodaeth am faes sydd o ddiddordeb arbennig. Mae’r ‘Padlet’ yn cynnwys dogfen grynodol lle cewch hyd i drosolwg o’r adnoddau a rhestr wirio i gadw cofnod o’r adnoddau a gyrchwyd.

Gallwch chi weld yr adnoddau yma.