Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, y Cwricwlwm diwygiedig i Gymru ddydd Mawrth, 28 Ionawr 2020. Mae’r canllawiau newydd wedi cael eu diwygio yn dilyn yr adborth a gafwyd ar y cwricwlwm drafft ym mis Ebrill 2019. Mae nid yn unig yn symlach ac yn fyrrach, ond hefyd yn rhoi cyfle i bob ysgol yng Nghymru ddylunio’u cwricwlwm eu hunain oddi mewn i ddull gweithredu cenedlaethol sy’n sicrhau rheoleidd-dra.

Dywedodd y Gweinidog Addysg: “Gwella addysg yw ein tasg genedlaethol, ac nid oes dim mor hanfodol â mynediad pawb at y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau y mae ar ein pobl ifanc eu hangen ar gyfer cyflogaeth, dysgu gydol oes a dinasyddiaeth weithredol.”

Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd y byddai £15 miliwn arall yn cael ei ddarparu i gefnogi athrawon ac ysgolion wrth weithredu’r cwricwlwm. Bydd £12 miliwn yn mynd yn uniongyrchol i’r ysgolion ar gyfer dysgu proffesiynol.