Mae Plan International UK wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol ar-lein, dan y teitl Adroddiad Cyflwr Hawliau Merched 2020.

Yn dilyn cyfraniad Plant yng Nghymru ynghylch rhaglennu i’r dyfodol ac eiriolaeth, llwyddodd Plan International UK i gynhyrchu cyfres o bapurau cefndir ar gyfraith a pholisi a fu o gymorth i’r awduron wrth iddyn nhw roi trefn ar eu meddyliau ar gyfer yr adroddiad. Er ei fod wedi’i strwythuro’n bennaf o amgylch barn a phrofiadau merched, roedd mewnbwn Plant yng Nghymru o gymorth mawr i’r tîm wrth iddyn nhw ddatblygu’r adroddiad terfynol.