Ers haf 2023, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau i’w helpu i ddod yn gyfoedion ymchwil, i archwilio’r rhwystrau sy’n wynebu pobl ifanc ac sy’n eu hatal rhag bod yn ecogyfeillgar.

Bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnal grŵp ffocws cyn diwedd mis Mai 2024. Cysylltwch â bethany.turner@childreninwales.org.uk os ydych yn gweithio gyda phlant 12-18 oed ac yn gallu cynnal sesiwn.

Mae’r prosiect yma’n cael ei ariannu gan y Gronfa Gwybodaeth Gymunedol drwy ein partneriaid, sef Sefydliad Young ac Ymchwil ac Arloesi y Deyrnas Unedig (UKRI). Byddwn hefyd yn gweithio gydag Egin drwy gydol y prosiect ac rydyn ni am ddiolch i'n holl bartneriaid am eu cefnogaeth. 

Ym mis Chwefror fe wnaethon ni gyhoeddi ein harolwg, ac rydyn ni mor falch ein bod wedi derbyn dros 800 o ymatebion. Rydyn ni nawr yn gweithio gyda’n cyfoedion ymchwil i ddadansoddi'r ymatebion ac i lunio ein canfyddiadau.

Ochr yn ochr â hyn, rydyn ni hefyd yn cynnal cyfres o grwpiau ffocws a fydd yn ehangu ar ein canfyddiadau o’r arolwg. Bydd y cyfoedion ymchwil yn hwyluso'r grwpiau ffocws eu hunain ac rydyn ni’n awyddus i bob grŵp gynnwys 4-10 o bobl ifanc. Bydd y sesiynau’n para tua awr.

Gan fod oedran yn gallu effeithio ar sut mae pobl ifanc yn teimlo am fod yn ecogyfeillgar, roedd y bobl ifanc yn teimlo y dylen ni gynnal gwahanol grwpiau ffocws ar gyfer gwahanol grwpiau oedran.

Rydyn ni felly’n chwilio am grwpiau ffocws ar gyfer:

  • Plant/pobl ifanc 12-15 oed, a
  • Pobl ifanc 16-18 oed

Byddwn hefyd yn cynnal grwpiau ffocws ar gyfer plant 7-11 oed mewn ysgolion cynradd ac rydyn ni am ddiolch i’r ysgolion yma am gynnig cynnal y grwpiau i ni.

Os oes modd i chi ein cefnogi gyda hyn, neu os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â bethany.turner@childreninwales.org.uk

                                           shutterstock_2111420681COMPRESSED.jpg