
Calling all new voters: Now is the perfect time to…
A new Welsh Government campaign, launched on Monday, 15 February 2021, is encouraging new groups of people resident in Wales to make their voices heard in upcoming elections.
Mae gennym ni gyfle gwych i gefnogi rhieni i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, ac yn cael mewnbwn uniongyrchol i’r gwaith mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi rhieni.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Cyswllt Rhieni Cymru gasglu peth gwybodaeth gan rieni. Bydden nhw’n hoffi:-
· Sicrhau dealltwriaeth well gan rieni/ofalwyr o’r gefnogaeth a’r wybodaeth mae arnyn nhw ei hangen/heisiau ar eu taith fel rhieni, o enedigaeth hyd at 18 oed.
· Deall faint o ymwybyddiaeth sydd o gymorth rhianta Llywodraeth Cymru a rhianta cadarnhaol.
· Casglu adborth gan rieni ar ymgyrch a gwefan ‘Magu Plant. Rhowch Amser Iddo’.
Rydyn ni wedi llunio amrywiaeth o wahanol ffyrdd i rieni roi eu hadborth. Nawr mae angen eich help chi arnon ni i gyrraedd rhieni a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Byddwn ni’n defnyddio’r dulliau canlynol i wneud hyn:-
· Arolwg Ar-lein
· Pôl Piniwn
· Cystadleuaeth Ffotograffiaeth
· Sesiynau profiad defnyddiwr
Arolwg byr ar-lein:-
Arolwg byr ar Ffurflen Microsoft yw hwn, yn holi rhieni am eu profiadau o fagu plant. Bydd angen rhyw 5-10 munud ar rieni i’w gwblhau. Cewch hyd i’r arolygon trwy ddilyn y dolenni canlynol:-
Cystadleuaeth ffotograffiaeth:-
Byddwn ni’n cynnal cystadleuaeth yn gofyn i rieni dynnu ffotograff sy’n crisialu ‘Bywyd Rhiant’. Gall hyn gynnwys eu plentyn/plant, gwrthrych, golygfa neu rywbeth haniaethol. Gofynnir iddyn nhw ddarparu capsiwn neu deitl byr ar gyfer y llun. Bydd enwau pawb sy’n cystadlu yn cael eu rhoi mewn het, gyda chyfle i ennill taleb Amazon gwerth £50.
Pôl piniwn Mentimeter:-
Dim ond tri chwestiwn sydd yma, yn holi rhieni am eu profiadau o fagu plant
Sesiwn profiad y defnyddiwr a phrofi’r wefan
Rydyn ni wedi dylunio sesiwn fer o 45 munud i’w chyflwyno i’r rhieni rydych chi’n gweithio gyda nhw. Sesiwn profiad y defnyddiwr yw hon, a fydd yn tywys rhieni trwy’r wefan ‘Rhianta. Rhowch Amser Iddo’, ac yn casglu adborth ynghylch eu barn amdani.
Rydyn ni wedi creu’r holl ddeunyddiau mae arnoch chi eu hangen i gyflwyno’r sesiwn hon, a byddwn ni’n rhoi mwy o gefnogaeth ac arweiniad i chi i’w cyflawni.
Mae’r fideo yma ar YouTube yn esbonio mwy:-
Cyswllt Rhieni Cymru – Magu Plant. Rhowch Amser Iddo, Profi’r Wefan a Gweithdy Profiad y Defnyddiwr
Os gallwch chi gyflwyno sesiwn gyda’r rhieni rydych chi’n gweithio gyda nhw, cysylltwch â fatiha.ali@childreninwales.org.uk i dderbyn yr holl adnoddau bydd arnoch chi eu hangen.
Mae gennym ni tan 20 Hydref i GLYWED gan gynifer o Rieni â phosibl. Gofynnir i chi gefnogi lle gallwch chi, a hybu hyn ymhlith pawb rydych chi’n gweithio gyda nhw.
Os bydd angen unrhyw gefnogaeth arnoch chi, neu os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, cofiwch gysylltu.
fatiha.ali@childreninwales.org.uk neu anna.westall@childreninwales.org.uk
A new Welsh Government campaign, launched on Monday, 15 February 2021, is encouraging new groups of people resident in Wales to make their voices heard in upcoming elections.