5 Llwybr at Lesiant
 

· Cysylltu
· Bod yn Actif
· Dal i ddysgu
· Helpu eraill
· Bod yn sylwgar

 

Sut mae datblygu mwy o Ymwybyddiaeth Ofalgar
 

"Mae’n hawdd rhoi’r gorau i sylwi ar y byd o’n cwmpas. Mae hefyd yn hawdd colli cysylltiad â sut mae ein cyrff yn teimlo a mynd i fyw ‘yn ein pennau’ – wedi’n dal yn ein meddyliau heb aros i sylwi sut mae’r meddyliau hynny yn gyrru ein hemosiynau a’n hymddygiad; rhan bwysig o ymwybyddiaeth ofalgar yw ailgysylltu â’n cyrff a’r profiadau maen nhw’n eu cael.

Ystyr hyn yw deffro i’r golygfeydd, y seiniau, yr arogleuon a’r blasau a geir yn y foment. Gallai hynny fod yn rhywbeth mor syml â theimlo’r canllaw wrth i ni gerdded i fyny’r grisiau.

"Elfen arall bwysig o ymwybyddiaeth ofalgar yw ymwybyddiaeth o’n meddyliau a’n teimladau wrth iddyn nhw ddigwydd o funud i funud.

"Mae’n golygu rhoi cyfle i’n hunain weld y foment bresennol yn glir. Pan wnawn ni hynny, mae’n gallu creu newid cadarnhaol yn ein ffordd o’n gweld ein hunain a’n bywydau."

 

Mae’r Athro Mark Williams, cyn-gyfarwyddwr ar Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar Rhydychen, yn dweud bod ymwybyddiaeth ofalgar yn golygu gwybod yn uniongyrchol beth sy’n digwydd y tu mewn a’r tu allan i’n hunain, funud wrth funud.

 

· Sylwi ar bethau pob dydd
· Cadw pethau’n rheolaidd
· Rhoi cynnig ar rywbeth newydd
· Gwylio’ch meddyliau
· Enwi meddyliau a theimladau
· Rhyddhau eich hun o’r gorffennol a’r dyfodo