Mae teuluoedd ledled Cymru yn teimlo'r straen ar gyllidebau eu cartrefi oherwydd costau byw cynyddol, gan wneud y cymorth ychwanegol hwnnw'n bwysicach nag erioed. Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol y gallai fod ganddynt hawl i fudd-daliadau a allai gynnig y cymorth sydd ei angen arnynt.

Nod ymgyrch ‘Hawlia Dy Arian’ yw:

  • Codi ymwybyddiaeth ymhlith y rhai hynny ar incwm is, neu'r rhai y mae’r argyfwng costau byw yr effeithir arnynt, a allai fod yn colli cyfle i gael cyllid y mae ganddynt hawl i'w hawlio.
  • Annog yr unigolion hynny i ffonio Advicelink Cymru i gael cyngor a chymorth ariannol annibynnol am ddim.

Mae gan filoedd o bobl Cymru hawl i gael mwy o fudd-daliadau 

Mae llawer o bobl heb ddeall y gallent fod â hawl i gael budd-daliadau a allai gynnig y cymorth sydd ei angen arnynt.

Os nad ydych yn siŵr pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio, gall Advicelink Cymru eich helpu i gadarnhau a hawlio’r hyn sy’n ddyledus i chi.  

Cysylltwch ag un o’n cynghorwyr heddiw drwy ffonio ein llinell gymorth rhad ac am ddim ar 0808 250 5700.

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn ffonio’r llinell gymorth?

Pan fyddwch yn cysylltu ag Advicelink Cymru, bydd cynghorydd hyfforddedig yn siarad â chi am eich amgylchiadau ac yn eich helpu i ddarganfod pa fudd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt.

Bydd y cynghorydd yn egluro pa dystiolaeth y mae angen i chi ei darparu i gefnogi eich cais a gall drefnu i chi gael help i lenwi unrhyw ffurflenni hawlio.

Llinell gymorth Advicelink Cymru

Mae Advicelink Cymru yn cynnig cyngor cyfrinachol yn rhad ac am ddim ar amrywiol bynciau, megis:

  • Budd-daliadau lles
  • Dyledion
  • Cyflogaeth
  • Addysg
  • Tai
  • Mewnfudo
  • Camwahaniaethu.

Cysylltwch ag un o’n cynghorwyr heddiw drwy ffonio ein llinell gymorth rhad ac am ddim ar 0800 702 2020.

Ewch i’r wefan i gael gwybod mwy am sut i gael cymorth.