Mae Cymru Ifanc yn recriwtio Pobl Ifanc i gofrestru i fod yn Wirfoddolwyr.

Rydym yn gwahodd pobl ifanc i gofrestru fel Gwirfoddolwyr Cymru Ifanc, wedyn byddent yn cael eu gwahodd i ddod yn aelodau ystod o fyrddau, grwpiau a’u gwahodd i fynychu ymgynghoriadau, hyfforddiant a chyfleoedd preswyl yn ystod y flwyddyn i ddod.

Mae'r hysbysebion recriwtio dwyieithog, disgrifiadau rôl a manylion cofrestru ynghlwm. Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech rannu gydag unrhyw gydweithwyr neu bobl ifanc yr ydych yn gweithio gydag a allai fod â diddordeb mewn ymuno.

Rydym hefyd yn falch iawn o gadarnhau y bydd y cwrs preswyl sefydlu cyntaf o 4 y byddwn yn ei gynnig eleni yng Nghanolfan Breswyl Gilwern yn Sir Fynwy rhwng 29 Ebrill a 1 Mai. Cyfyngir y capasiti i tua 50 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru yn bersonol yn y cwrs preswyl. Fodd bynnag, byddwn yn cynnig sesiwn sefydlu ar-lein ar wahân yr wythnos ganlynol ar gyfer unrhyw bobl ifanc na allant fynychu'r cwrs preswyl. Bydd Cymru Ifanc yn talu’r costau ar gyfer llety a bwyd preswyl, a gall gefnogi gyda chostau neu anghenion trafnidiaeth yn ôl yr angen. (Byddwn yn gofyn am ddewis y bobl ifanc i fynychu’r sesiwn gynefino yn bersonol neu sesiwn ar wahân ar-lein ar y ffurflen gofrestru.)

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os oes unrhyw rwystrau eraill i gyfranogiad, cysylltwch â: volunteer@childreninwales.org.uk a byddwn yn hapus i archwilio sut y gallem gefnogi ymhellach.