Rhowch gyfle i blant a phobl ifanc/pobl broffesiynol/rhieni/gofalwyr i lywio gwaith Comisiynydd Plant Cymru 

Rocio Cifuentes yw Comisiynydd Plant Cymru. Ei swydd yw i warchod a hyrwyddo hawliau a lles plant ac i siarad fyny dros blant a phobl ifanc Cymru. Er mwyn iddi fod yn bencampwraig effeithiol, mae angen iddi glywed wrth blant a phobl ifanc, a’r rheiny sy’n gweithio gyda nhw, am bynciau llosg ddylai gael eu cynnwys yng nghynllun gwaith y Comisiynydd. 

 Gobeithion i Gymru 

Dyma beth ry’n ni wedi galw’r arolwg, fydd yn hysbysu cynllun gwaith y Comisiynydd dros y tair blynedd nesa’. Drwy’r arolwg yma, ry’n ni’n galluogi lleisiau plant a phobl ifanc ddylanwadu ar yr hyn fydd y Comisiynydd Plant yn gwneud dros y blynyddoedd nesa’. 

 Mae’r arolwg yn fyw 

Hoffwn ni weld cymaint â phosibl o blant a phobl ifanc, rhieni/gofalwyr a phobl sy’n gweithio gyda ac ar ran plant a phobl ifanc gwblhau’r arolwg. Mi fydden ni’n ddiolchgar petasech chi’n medru annog a chefnogi  cymaint i rannu eu barn gyda ni drwy gwblhau’r arolwg. 

 Ble alla i gwblhau’r arolwg? 

Mae’r arolwg ar gael yma. Yno fe welwch chi: 

  • Gwahanol fersiynau i oed 7-11, 12-18 a fersiwn hawdd ei ddarllen gyda symbolau Widgit; 
  • Linc i fersiwn y we sy’n hawdd ei ddanfon at ddysgwyr; 
  • Cynnig i blant oed 2-3, 4-7, dysgwyr sydd â ‘PMLD’ a fersiwn BSL i blant a phobl ifanc byddar; 
  • Fersiwn i rieni/gofalwyr; 
  • Fersiwn i bobl sy’n gweithio gyda neu ar ran plant a phobl ifanc. 

5 o Dachwedd 2022 yw’r dyddiad cau.