Bob blwyddyn, mae Plant yng Nghymru mewn partneriaeth â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru (ECPN) yn cynnal yr Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd. Eleni yw ein seithfed flwyddyn.

Mae canfyddiadau’r arolygon hyn yn ein helpu i amlygu’r problemau presennol a deall mwy amdanyn nhw ac am effaith tlodi ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru.

Mae Arolwg Tlodi Plant a Theuluoedd 2023 bellach ar gau i gyflwyniadau.  

Diolch i bawb sydd wedi ymateb, rydym wir yn gwerthfawrogi hynny.

Bydd y wybodaeth a ddarparwyd gennych yn cael ei chasglu dros y misoedd nesaf gyda'r adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Medi 2023.

Byddwn hefyd yn defnyddio'r canfyddiadau o'r ddau arolwg i lywio ymgynghoriad cyhoeddus Llywodraeth Cymru ar dlodi plant.