Ym mis Mai 2023, bydd llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig yn mynychu archwiliad gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn o’u cynnydd yn gweithredu Confensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn. Bydd hynny’n arwain at gyfres o argymhellion (Sylwadau Terfynol) a ddisgwylir ym mis Mehefin 2023.

Cyn yr archwiliad mae Plant yng Nghymru, ar y cyd â’n partneriaid yng Ngrŵp Monitro CCUHP Cymru, wedi cwblhau nifer o weithgareddau, sy’n cynnwys:

  • Cyhoeddi ein Hadroddiad ar Gymdeithas Sifil yng Nghymru i lywio Rhestr Pwyllgor y CU o Faterion cyn Adrodd (Rhagfyr 2020)
  • Darparu sylwadau i lywio’r fersiynau drafft o Adroddiad Parti Gwladol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac Adroddiad Llywodraeth Cymru (Haf 2022)
  • Cyhoeddi ein Hadroddiad ar Gyflwr Hawliau Plant ar ffurf adroddiad ‘amgen’ ar ran sefydliadau cymdeithas sifil yng Nghymru.

Rydym hefyd wedi cydweithio â chynghreiriau hawliau plant eraill yn y Deyrnas Unedig i gyhoeddi adroddiadau ar y Deyrnas Unedig gyfan (Ionawr 2021 a 2023), ac wedi bod mewn cysylltiad â’r Cenhedloedd Unedig ynghylch ein hadroddiadau trwy’r cyfnod Cyn Sesiynol (Chwefror 2023)

Cyflwr Hawliau Plant yng Nghymru: Adroddiad amgen gwlad-benodol ar sefyllfa hawliau plant fel y’u diffinnir o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).