2023 – 2024 yw blwyddyn pen-blwydd Plant yng Nghymru yn 30. I ddathlu’r garreg filltir bwysig hon, gofynwyd i ysgolion, grwpiau cymdeithasol, lleoliadau gofal plant a chwarae i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth baneri bach a oedd yn gyfle creadigol i blant a phobl ifanc ddysgu mwy am hawliau plant, wrth fod yn greadigol a chael hwyl. Gofynnwyd iddynt greu dyluniad yn seiliedig ar yr hawl bwysicaf iddyn nhw. 

Cawsom dros 100 o gyflwyniadau - diolch i bawb a gymerodd ran a chyflwyno'ch ceisiadau, fe wnaethon ni fwynhau edrych ar y dyluniadau a'u harddangos yng Ngŵyl Cymru Ifanc.

Yr enillwyr

Lle cyntaf: disgybl o Ysgol y Ferch o'r Sger ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Ail safle: disgybl o Ysgol Trellech yn Sir Fynwy
Trydydd safle: disgybl o Ysgol Gynradd Bryn Celyn yng Nghaerdydd

Llongyfarchiadau i'n henillwyr, dyma eu gwaith celf gwych:

Bunting_web (1 of 4).jpg

 

Y wobr

  • Taleb £25 ar gyfer y cyfranogwyr sy’n ennill y wobr gyntaf, yr ail wobr a’r drydedd wobr
  • Aelodaeth o Plant yng Nghymru am ddim am flwyddyn i grwp y cyfranogwr sy’n ennill y wobr gyntaf
  • Erthygl yn rhifyn Gaeaf e-gylchgrawn Plant yng Nghymru i grwp y cyfranogwr sy’n ennill y wobr gyntaf

Dilynwch ni ar X (Trydar gynt), LinkedIn Facebook ac Instagram.