Plant yng Nghymru yn lansio Canfyddiadau eu 7fed Arolygon Blynyddol Tlodi Plant a Theuluoedd

  • Nod y 2 arolwg oedd deall mwy am y materion mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn eu hwynebu ar hyn o bryd, effaith hynny arnynt, ac yn bwysig, clywed barn y plant a’r bobl ifanc eu hunain.

Mae tlodi yn gwadu llawer o'u hawliau i blant a phobl ifanc. Mae'r ymarferwyr a'r gweithwyr proffesiynol a ymatebodd i'r arolwg hwn yn gweithio gydag o leiaf 110,000 o deuluoedd a'u plant.  Ar y cyfan, maen nhw'n gweld costau byw yn cynyddu, ansicrwydd bwyd a dyled fel ffactorau sy'n cael yr effaith fwyaf ar deuluoedd, gyda 95% yn nodi bod y sefyllfa yn waeth eleni o'i gymharu â'r llynedd.

Mae ymatebwyr yn sôn am "ganlyniadau llym" tlodi, "dirywiad iechyd meddwl" a "mwy o bryder", nid yn unig i rieni, ond i blant hefyd.

YP version poverty report-CYMRAEG P2.jpg

Dywedodd Hugh Russell, Prif Weithredwr Plant yng Nghymru:

"Mae nifer y plant yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru ar hyn o bryd wedi aros yn ystyfnig o uchel dros y degawd diwethaf. Mae effaith gronnol y sefyllfa barhaus hon ar bobl ifanc a'u teuluoedd yn eglur yn ein hadroddiad newydd ar dlodi plant yng Nghymru.

Mae canfyddiadau'r yn glir: mae cyfran enfawr o gymdeithas yn ei chael hi'n anodd diwallu eu hanghenion sylfaenol, ac mae plant yn cael effaith uniongyrchol o hyn ar eu dysgu a'u datblygiad.

Gwyddom y bydd cyllideb nesaf Llywodraeth Cymru yn un anodd ond rôl Plant yng Nghymru yw ehangu profiadau'r plant a'r bobl ifanc hynny sy'n gweithio, yn ogystal â phlant a phobl ifanc eu hunain, a'r hyn y maent yn ei ddweud wrthym yw na allant oddef unrhyw doriadau pellach. Mae'n hanfodol bod y cyd-destun y mae llawer o blant a theuluoedd bellach yn byw ynddo yn cael ei ddeall yn glir ac yn arwain at ymdrech ar y cyd i ddiogelu'r cyllidebau yn llawn ar gyfer y rhaglenni, ymyriadau a gwasanaethau hynny y mae mwy a mwy o blant, pobl ifanc a theuluoedd yn dibynnu arno."

Dywedodd Karen McFarlane, Swyddog Polisi ar gyfer Tlodi ac awdur yr adroddiad:

"Gall effeithiau tlodi fod yn bellgyrhaeddol a chyffwrdd â phob agwedd ar fywydau plant.  Ar hyn o bryd, wrth i chi ddarllen hwn, mae llawer o deuluoedd yng Nghymru yn gorfod gwneud y penderfyniad naill ai i fwydo eu plant neu ddefnyddio trydan. Nid yw'n syndod felly bod y canfyddiadau'n dangos dyledion cynyddol, tlodi bwyd a thanwydd a chynnydd dramatig mewn iechyd emosiynol gwael, nid yn unig i rieni, ond plant a phobl ifanc eu hunain".

"Bydd defnyddio rhai o'r ysgogiadau sydd gennym eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr i deuluoedd, fel ysgolion sy'n gweithredu canllawiau statudol Llywodraeth Cymru yn llawn ar wisg ysgol. Byddai hyn yn golygu y byddai gwisgoedd ysgolion yn rhatach i lawer."

Lawrlwythwch yr adroddiadau isod, am ragor o wybodaeth am yr adroddiad a'i ganfyddiadau, cysylltwch â Karen McFarlane.