Mae Plant yng Nghymru yn falch o gyhoeddi lansio Prosiect Niwrowahaniaeth Lleisiau Plant, sef menter newydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc niwrowahanol yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi wrth wneud penderfyniadau.
Ar ôl sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd Plant yng Nghymru yn sefydlu grŵp cynghori newydd i bobl ifanc niwrowahanol rhwng 11 a 25 oed o bob cwr o Gymru. Bydd y prosiect yn creu cyfleoedd diogel, cynhwysol a chefnogol i bobl ifanc rannu eu profiadau byw a dylanwadu ar y polisïau, y gwasanaethau a’r cymorth sy'n effeithio ar eu bywydau.
Beth yw'r prosiect?
Mae Prosiect Niwrowahaniaeth Lleisiau Plant yn dwyn ynghyd bobl ifanc niwrowahanol a Llywodraeth Cymru i archwilio beth sy'n gweithio'n dda, beth sydd ddim, a beth sydd angen ei newid. Trwy weithdai creadigol, hygyrch wedi'u teilwra, cefnogir pobl ifanc i rannu eu syniadau, eu barn a'u profiadau yn y ffyrdd sy'n gweithio orau iddyn nhw.
Bydd y grŵp cynghori yn canolbwyntio ar gyfranogiad ystyrlon, gan sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo iddynt gael eu clywed, eu parchu a'u grymuso i gymryd rhan fel y mynnant.
Pam cymryd rhan?
Drwy ymuno â'r grŵp cynghori, bydd pobl ifanc niwrowahanol yn cael y cyfle i:
- Gysylltu ag eraill a magu perthnasoedd
- Rhannu eu profiadau a'u syniadau i helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n bwysig iddyn nhw
- Cymryd rhan mewn gweithdai creadigol, cynhwysol a hygyrch
- Cyfranogi mewn ffyrdd sy'n gweddu i'w hanghenion, eu dewisiadau a'u dulliau cyfathrebu
- Mwynhau gweithgareddau sy'n gefnogol, cymdeithasol a hwyliog
Pwy all gymryd rhan?
Mae'r prosiect ar gael i bobl ifanc niwrowahanol rhwng 11 a 25 oed sy'n byw yng Nghymru ac sydd am helpu i lywio cymorth a gwasanaethau’r dyfodol.
Pryd a ble?
I gyflwyno'r prosiect, bydd Plant yng Nghymru yn cynnal sesiwn blas ym mis Ebrill 2026. Bydd y sesiwn hon yn gyfle i bobl ifanc gwrdd â'r tîm, dysgu mwy am y prosiect a phenderfynu a hoffent fod yn rhan ohono.
Bydd dyddiad, amser a lleoliad y sesiwn blas yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.
Sut i gael gwybod rhagor
I gael gwybod rhagor neu gofrestru eich diddordeb, cysylltwch neu llenwch y ffurflen hon.
Mae Plant yng Nghymru yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â phobl ifanc niwrowahanol i fyfyrio, rhannu syniadau, cael hwyl a chreu newid cadarnhaol gyda'i gilydd.