Ydy eich sefydliad chi yn gweithio gyda phobl ifanc i’w galluogi i gael llais a dylanwadu ar faterion sy’n bwysig iddynt? Ydych chi’n cefnogi pobl ifanc i ymgysylltu ag eraill sy’n gweithio mewn meysydd sy’n effeithio ar eu bywydau? Os felly, rydyn ni am glywed gennych!

Mae’r Ganolfan Effaith Ieuenctid yn cynnal arolwg er mwyn deall sut mae sefydliadau’n cynorthwyo pobl ifanc i ddylanwadu ar benderfyniadau pobl eraill – y rhai sy’n gweithio mewn meysydd sy’n effeithio ar fywydau pobl ifanc neu ar faterion sy’n bwysig i bobl ifanc. Dyma gyfle i’ch sefydliad chi rannu eich barn ar yr hyn sy’n gweithio, y rhwystrau rydych chi’n eu hwynebu, a pha gymorth sy’n angenrheidiol, yn eich barn chi, er mwyn i leisiau pobl ifanc gael eu clywed.

Mae’r arolwg yn rhan o brosiect Mwyafu Llais a Phŵer Pobl Ifanc y Ganolfan a ariannir ar y cyd gan Sefydliad Paul Hamlyn, BBC Plant Mewn Angen a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Nod y prosiect yw cael gwell golwg ar hyd a lled arferion llais ieuenctid yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys deall mwy am y gweithgareddau sy’n helpu lleisiau pobl ifanc i gael eu clywed, a pha bobl ifanc mae’r broses hon yn eu cyrraedd ac yn ymgysylltu â nhw (a pha rai, i’r gwrthwyneb, sydd heb eu cynnwys).

Bydd yr arolwg ar waith rhwng 01 Mehefin a 14 Awst. Os ydych chi’n sefydliad sy’n helpu pobl ifanc i ymgysylltu â gwneud penderfyniadau neu’n eu helpu i ddylanwadu ar eraill, yna mae’r arolwg hwn ar eich cyfer chi.

Cyfranogiad pobl ifanc wrth wneud penderfyniadau: arolwg y Deyrnas Unedig

Bydd y data a gesglir yn ddienw ac yn cael ei grynhoi a’i gyflwyno fel adnodd rhyngweithiol sydd ar gael i’r cyhoedd,  er mwyn helpu ymarferwyr, cyllidwyr a phobl ifanc i ddeall y darlun o arferion llais ieuenctid, a all fod yn sbardun i wella’r gwaith rydym ni’n ei wneud gyda’n gilydd yn y maes hwn. 

Funder logo banner.png