Gan adlewyrchu Erthygl 24 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n cydnabod hawl pob plentyn i'r safon iechyd uchaf posibl a mynediad at ofal iechyd, mae'r rhifyn hwn yn archwilio sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod babanod, plant a phobl ifanc yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu. Mae hefyd yn adlewyrchu uchelgais allweddol ym Maniffesto 'Pencampwyr dros Blant' Plant yng Nghymru ar gyfer 2025/26: "Rydym am i blant fod yn rhydd rhag iechyd corfforol a meddyliol gwael, ac i dderbyn y cymorth a'r gefnogaeth pan fydd angen hynny."

Gan ddod â phrofiadau ac arbenigedd ein haelodau ynghyd, mae'r rhifyn hwn yn dathlu'r amrywiaeth o waith sy'n digwydd ledled Cymru i wireddu'r weledigaeth hon. Trwy enghreifftiau ymarferol, mewnwelediad proffesiynol, myfyrdod personol a phrofiad bywyd, mae'r cylchgrawn yn archwilio'r hyn sydd ei angen i gefnogi babanod, plant a phobl ifanc i fod yn iach. Mae'r cyfraniadau yn ysbrydoledig ac yn ysgogiad i feddwl, gan dynnu sylw at yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd hawliau plant yn cael eu parchu, eu diogelu a'u gwireddu.

Rydym yn hynod ddiolchgar i'n holl aelodau sydd wedi cyfrannu at y rhifyn hwn, gan rannu'r ymroddiad, y drugaredd a'r arloesedd sydd wrth wraidd eu gwaith. Rydym yn falch o arddangos eu straeon a dathlu'r gwahaniaeth cadarnhaol maent yn ei wneud i fywydau babanod, plant a phobl ifanc ledled Cymru. Lawrlwythwch y cylchgrawn yma:

Cylchgrawn Hydref