Pa gyllid sydd ar gael?

Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad untro o £200 gan eu hawdurdod lleol. Diben yr arian yw rhoi cymorth tuag at dalu biliau tanwydd. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad tanwydd gaeaf sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU.

Bydd y taliad ar gael i bob cwsmer ynni cymwys ni waeth sut y maent yn talu am danwydd. Mae hyn yn cynnwys taliadau a wneir ar fesurydd rhagdalu, drwy ddebyd uniongyrchol, wedi’u talu bob chwarter neu i’r rhai nad ydynt ar y grid tanwydd.

Mae’r cynllun hwn yn rhan o becyn cymorth gwerth £90 miliwn i fynd i'r afael â’r pwysau uniongyrchol ar gostau byw.

Beth yw’r gronfa

Nod cynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru yw lleihau effaith y cynnydd yng nghostau ynni a’r argyfwng costau byw.

Mae’r cynllun wedi’i dargedu at aelwydydd incwm isel ac rydym yn cynyddu nifer yr aelwydydd sy’n gymwys.

Rydym yn deall sut y gall misoedd y fod yn rhai o fisoedd anoddaf y flwyddyn. Ni ddylai teuluoedd orfod dewis rhwng gwresogi eu cartref a bwyta.

Pwy all wneud cais?

Bydd y cynllun ar agor i aelwydydd lle mae’r sawl sy’n gwneud cais neu ei bartner yn derbyn un o’r budd-daliadau lles isod unrhyw bryd rhwng 1 Rhagfyr 2022 a 31 Ionawr 2023:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Credyd Cynhwysol
  • Credydau Treth Gwaith
  • Credydau Treth Plant
  • Credyd Pensiwn
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • Lwfans Byw i Bobl Anabl
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans ar gyfer Gofalwyr
  • Budd-daliadau Cyfrannol
  • Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel

Mae’r rhai sy’n cael Lwfans Gofalwyr yn cynnwys y bobl hynny sy'n cael taliadau Lwfans Gofalwyr a phobl sydd wedi hawlio Lwfans Gofalwyr ond nad ydynt yn ei dderbyn fel taliadau ariannol oherwydd rheolau budd-daliadau sy’n gorgyffwrdd, h.y. mae ganddynt hawl sylfaenol i Lwfans Gofalwyr.

Os nad yw deiliad y cartref na’i bartner yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau cymhwyso, efallai y bydd deiliad y cartref yn gymwys i ymgeisio os oes unigolyn cymwys yn byw gyda nhw.

Rhaid i unigolyn cymwys fodloni pob un o’r amodau a ganlyn:

  • yn byw yn nhŷ deiliad y cartref fel ei brif breswylfa
  • yn blentyn dibynnol neu’n oedolyn arall sy’n byw gyda deiliad y cartref neu ei bartner
  • yn cael 1 o’r budd-daliadau a ganlyn:
    • Lwfans Gweini
    • Lwfans Byw i Bobl Anabl
    • Taliad Annibyniaeth Personol
    • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
    • Lwfans Gweini Cyson
    • Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel

Rhaid bod yr ymgeiswyr hefyd yn gyfrifol am dalu'r biliau ynni ar gyfer yr eiddo.

Sut i wneud cais?

Gellir gwneud ceisiadau i awdurdodau lleol drwy eu gwefan pan fydd y cynllun yn agor ar 26 Medi 2022.

Dod o hyd i’ch awdurdod lleol.