
Llais y Baban – Ymgynghori â Rhieni
Ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr i faban neu blentyn ifanc o dan 2 oed? Helpwch ni i ddeall beth sydd ei angen ar eich baban gennych chi a phobl eraill o’u cwmpas.
Mae’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl wedi cytuno ar weithgorau i gynnal rhagor o waith ymchwil a gosod camau pellach er mwyn cyrraedd ein huchelgais i adeiladu Cymru gryfach a thecach.
Bydd y gweithgorau'n para tan 2023, ac maent wedi'u cynllunio i ddod â phobl a sefydliadau ag arbenigedd, profiad byw, a’r gallu i lunio polisïau a’u cyflawni ynghyd i ganolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth penodol. Bydd pob gweithgor yn datblygu ac yn cytuno ar gamau gweithredu sydd i'w cyflwyno i'r Tasglu. Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer y gweithgorau isod:
Defnyddio a deall y Model Cymdeithasol o Anabledd (ledled Cymru) – y cyfarfodydd wedi dod i ben i weithredu’r argymhellion
Mynediad at wasanaethau (gan gynnwys cyfathrebu a thechnoleg hygyrch) – y cyfarfodydd wedi dod i ben i weithredu’r argymhellion
Byw'n annibynnol: gofal cymdeithasol – y cyfarfodydd wedi dod i ben i weithredu’r argymhellion
Byw'n annibynnol: iechyd a llesiant – parhau
Teithio – parhau
Cyflogaeth ac incwm – parhau
Plant a phobl ifanc – disgwyl dechrau ym mis Mai 2023
Tai fforddiadwy a hygyrch – disgwyl dechrau ym mis Gorffennaf 2023
Er mwyn cefnogi'r arweinwyr polisi o wahanol adrannau, rydym bellach yn chwilio am unigolion anabl sydd â phrofiad byw o effaith wahaniaethol ableddiaeth ac anableddiaeth i fod yn rhan o’r gweithgorau a restrir uchod.
Ni fydd angen ichi gynrychioli unrhyw un gymuned neu grŵp anabl penodol. Rydym yn croesawu eich bod yn gallu cynnig profiadau a gwybodaeth am ddeinameg groestoriadol cydraddoldeb sy'n effeithio ar gymunedau o bobl anabl.
Mae disgwyl i bob gweithgor gynnwys tua 20-30 o bobl. Caiff yr union nifer ei benderfynu yn nes at yr amser.
Bydd gofyn ichi wneud y canlynol:
Mynychu cyfarfodydd achlysurol o’r Gweithgor yn 2022 a 2023. Cynhelir pob cyfarfod o bell.
Gweithio mewn ffordd adeiladol gyda swyddogion polisi dynodedig ac aelodau o'r gweithgor i lywio dealltwriaeth o’r newidiadau sydd eu hangen i wella'r effeithiau anghyfartal ar gymunedau o bobl anabl.
Deall y Model Cymdeithasol o Anabledd a chefnogi ei ddefnyddio wrth ddatblygu gwaith y Tasglu.
O ganlyniad i'r gwaith hwn, cewch gyfle i ddeall sut mae polisïau'n cael eu gwneud, sut mae Llywodraeth yn gweithio, ac ymwybyddiaeth o dirwedd wleidyddol Cymru.
Os hoffech wirfoddoli i fod yn aelod o unrhyw un o'r gweithgorau a restrir uchod, mynegwch eich diddordeb i’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl drwy: DisabilityRightsTaskforce@llyw.cymru
Wrth fynegi eich diddordeb, rhowch wybod pa sefydliad yr ydych yn ei gynrychioli, os ydych yn cynrychioli un. Byddai hefyd yn ddefnyddiol pe gallech gadarnhau a oes arnoch angen dehonglydd BSL neu gefnogaeth adroddwr llais i destyn yn ystod y cyfarfodydd hyn. Bydd y trefniadau sydd eu hangen yn cael eu gwneud gan ein tîm i sicrhau eich bod yn gallu cyfrannu'n llawn at y trafodaethau hyn.
Ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr i faban neu blentyn ifanc o dan 2 oed? Helpwch ni i ddeall beth sydd ei angen ar eich baban gennych chi a phobl eraill o’u cwmpas.