Yn ei hadroddiad blynyddol mae Comisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland, wedi galw am atal cwmnïau preifat rhag elwa o gartrefi plant neu ofal maeth. Mae Sally Holland wedi dweud bod rhaid i Lywodraeth Cymru “ymrwymo i weithredu o fewn y flwyddyn nesaf”, ac mae ei chanfyddiadau wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru.

O’r 770 o leoedd mewn cartrefi gofal yng Nghymru, mae bron 80% yng ngofal cwmnïau preifat, sy’n elwa o’r system ofal. Fodd bynnag, mae cyrff yn y diwydiant gofal yn dadlau ynghylch yr angen a hyn gan fod costau’n codi wrth i blant sydd ag anghenion mwyfwy cymhleth ddod i’r system.

Mae’r Comisiynydd Plant yn credu y dylai fod symudiadau “at leihau ac yn y pen draw at ddileu gwneud elw mewn gwasanaethau gofal plant”, ac mae pobl ifanc sy’n derbyn gofal yn cytuno. Yn ôl yr adroddiad mae plant yn dweud eu bod “mewn gwirionedd yn hapus iawn gyda[’u] gofalwyr maeth, ond yn anhapus iawn am lefel yr elw sy’n mynd i ryw gwmni pell… mae’n teimlo fel [petaen nhw’n] cael eu prynu a’u gwerthu mewn marchnad.”

Cewch hyd i’r adroddiad llawn yma ac erthygl y BBC yma.