Mae datganiad ar y cyd wedi cael ei gyflwyno heddiw gan Lywodraeth Cymru, NSPCC, Plant yng Nghymru a’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid, yn cadarnhau bod rhaid i bawb ohonom dderbyn cyfrifoldeb am gadw ein plant yn ddiogel.
Dywedodd Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi Plant yng Nghymru:
“Neges glir sydd gennym. Os oes angen help arnoch chi, gofynnwch am help. Os ydych chi’n gwybod am rywun sydd angen help, neu sy’n pryderu am rywun, gofynnwch am help heddiw. Mae cynifer o wasanaethau gwych wedi ymateb yn llawn egni a phenderfyniad er mwyn helpu i sicrhau bod plant yn cael eu cadw’n ddiogel rhag niwed yn y cyfnod hanfodol yma. Maen nhw yno, yn barod ac yn fodlon darparu cyngor, gofal, cysur a chefnogaeth. Rhaid i bawb ohonom fod yn eithriadol wyliadwrus a cheisio sicrhau na fydd unrhyw blentyn yn dioddef yn ystod y pandemig yma.”
Gallwch ddarllen y datganiad llawn ar Wefan Llywodraeth Cymru.