Prosiect Ymgysylltu â Rhanddeiliaid – Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol
yng Nghymru


Rydym eisiau eich barn chi ar weithredu'r Cynllun Gweithredu Cam-drin Plant
yn Rhywiol 2019

Mae Llywodraeth Cymru'n cynnal adolygiad o'r gweithredu a'r cynnydd a wneir gan y Byrddau Diogelu Rhanbarthol, ac asiantaethau partner allweddol o'r sectorau statudol, y trydydd a'r sector preifat i weithredu'r Cynllun Gweithredu Cam-drin Plant yn Rhywiol i Gymru.

Gofynnwyd i Plant yng Nghymru gynnal gweithgareddau ymgysylltu gydag asiantaethau allweddol sydd wedi bod yn gweithio i wneud newidiadau o dan y cynllun, ac rydym am ddarganfod eich barn am yr hyn a ddigwyddodd o ganlyniad i'r cynllun, a chanlyniadau'r mentrau hyn.
 
Caiff eich barn ei lunio mewn adroddiad i Lywodraeth Cymru, gydag argymhellion ynglŷn â beth ddylid ei gynnwys yn y cynllun newydd i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn.

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi am:

*Pa fath o ymgysylltu fyddai'n gweithio orau i chi, gan gynnwys opsiynau ar gyfer grwpiau ffocws, holiaduron a chyfweliadau unigol?

*Beth sydd wedi newid yn eich meysydd gwaith ers cyhoeddi'r cynllun?

*Pa gynnydd sydd wedi'i wneud i gynyddu ymwybyddiaeth, amddiffyniad a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol yng Nghymru?

*Pa dueddiadau rydych chi'n eu gweld?

*Beth mae goroeswyr cam-drin plant yn rhywiol yn dweud wrthych chi?

*Pa argymhellion ydych chi'n awgrymu y dylai'r adroddiad eu gwneud i'r Llywodraeth?


Dyma gyfle go iawn i ddylanwadu ar greu cynllun newydd a fydd yn adeiladu ar waith presennol sydd wedi'i gyflawni, a bydd yn ymgymryd â'ch gwybodaeth am fentrau sydd wedi datblygu y tu allan i'r cynllun.

Os na allwch ddod i'r digwyddiad hwn, ond yn dymuno cymryd rhan mewn digwyddiadau ymgysylltu sy'n cael eu cynnal ym mis Ionawr a mis Chwefror 2023, allech chi anfon ebost i louise.oneill@childreninwales.org.uk i nodi pa fath o ymgysylltu y byddai'n well gennych.