Mae’n bleser gennym rannu bod Plant yng Nghymru a’r Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar (PACEY) wedi ffurfio partneriaeth newydd gyffrous. Bydd y bartneriaeth hon yn gweld y ddau sefydliad yn cydweithio ar ddatblygu a darparu hyfforddiant diogelu ar gyfer y gweithlu gofal plant a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Ym mis Mai 2023, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Safonau Gofynnol Cenedlaethol diwygiedig ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed, gan gynnwys canllawiau cliriach ar ofynion hyfforddiant diogelu yng Nghymru.

Bydd PACEY Cymru a Plant yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu pecyn o hyfforddiant ar gyfer y sector yn unol â’r safonau diwygiedig. Gyda’i gilydd, bydd Plant yng Nghymru a PACEY Cymru yn defnyddio eu profiad o’r sector a’u gwybodaeth diogelu i ddatblygu pecyn hyfforddi wedi’i adnewyddu sy’n diwallu anghenion pawb sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant a blynyddoedd cynnar. Y bwriad yw y bydd yr hyfforddiant dwyieithog hwn yn cael ei gyflwyno drwy ddull cyfunol o ddysgu ar-lein hunangyfeiriedig a dysgu dan arweiniad hyfforddwr.

Dywedodd Hugh Russell, Prif Weithredwr Plant yng Nghymru:

“Mae’n wych gweithio gyda PACEY Cymru i greu pecyn hyfforddiant pwrpasol yn unol â safonau diwygiedig Llywodraeth Cymru ar gyfer lleoliadau gofal plant.

Mae diogelu wrth wraidd ein gwaith yn Plant yng Nghymru ac rydym yn edrych ymlaen at ddod â’n gwybodaeth a’n harbenigedd ynghyd i greu hyfforddiant perthnasol a hygyrch i’n haelodau a lleoliadau gofal plant ledled Cymru”. 

Dywedodd Claire Protheroe, Pennaeth Contractau a Phrosiectau yn PACEY:

“Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio gyda Plant yng Nghymru ac yn dod â’n gwybodaeth a’n profiad yn y maes hwn ynghyd i gefnogi’r sector.  Bydd y Safonau Hyfforddi, Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol newydd a lansiwyd ym mis Tachwedd 2022 ac a adlewyrchir yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol diwygiedig yn llywio ein rhaglen ddatblygu a chyflawni. Bydd canlyniad y bartneriaeth hon yn cefnogi ein nod o gael gweithlu gwybodus sy’n deall y rôl sydd ganddynt i’w chwarae i gefnogi diogelwch a lles plant.”