Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi bod Helen Mary Jones wedi’i phenodi’n Gadeirydd newydd arnon ni yn ein CCB diweddar, yn dilyn ymgyrch recriwtio a phroses gyfweld drylwyr.

Mae Helen Mary yn gyfarwydd iawn â gwaith Plant yng Nghymru, ac mae wedi bod yn un o’n Hymddiriedolwyr ers 2021. Bu gynt yn Aelod o’r Senedd (1999-2011 a 2018-2021), yn ogystal â Phrif Swyddog Gweithredol ar Youth Cymru. Mae Helen Mary bellach yn gweithio fel ymgynghorydd ar ei liwt ei hun, ac yn aelod o sawl bwrdd, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru.   

Meddai Helen Mary, Mae’n fraint aruthrol cael fy ethol i gyflawni’r rôl bwysig hon. Ni fu erioed adeg anoddach i blant a theuluoedd yn y cyfnod diweddar hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda thîm staff Plant yng Nghymru i gefnogi ein haelodau yn eu gwaith hanfodol dros blant a phobl ifanc. Rhaid i hybu hawliau plant fod yn ganolog i benderfyniadau yma yng Nghymru nawr, yn fwy nag erioed, ac mae’n rhaid i leisiau plant gael eu clywed.”

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Helen Mary i helpu i yrru Plant yng Nghymru ymlaen yn strategol.

Ein CCB hefyd oedd cyfarfod olaf ffurfiol Dave Williams fel Cadeirydd Plant yng Nghymru. Mae Dave wedi gwneud cyfraniad anferth i’n gwaith yn ystod y 9 mlynedd diwethaf, fel Cadeirydd ac aelod o’r Bwrdd, ac mae Bwrdd a staff Plant yng Nghymru yn eithriadol o ddiolchgar iddo. Diolch Dave!

Wrth ymadael, dywedodd Dave, “Mae wedi bod yn fraint fawr cael gwasanaethu ar fwrdd ymddiriedolwyr Plant yng Nghymru. Rwy’n falch o bopeth rydyn ni wedi’i gyflawni dros y blynyddoedd, a hoffwn i ddiolch i holl staff ac ymddiriedolwyr Plant yng Nghymru ar hyd fy nghyfnod yn ymwneud â nhw. Rwy’n gadael ar adeg heriol, ond cyffrous. Mae’r sefydliad a’r arweinyddiaeth, gyda Helen Mary yn gadeirydd newydd ar yr Ymddiriedolwyr, yn barod ac wedi’u harfogi i ymateb i’r her honno. Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi’r gwaith hollbwysig wrth i ni symud ymlaen.”