Bydd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol)(Cymru) 2018 yn dod i rym ar 2 Mawrth 2020. Bydd yn gosod pris sylfaenol ar gyfer alcohol, fel nad oes modd gwerthu na chyflenwi alcohol o dan y pris hwnnw. Nod y ddeddf yw lleihau’r achosion o yfed gormodedd o alcohol, a’r niwed pellgyrhaeddol y gall yfed eithafol ei achosi.

Mae alcohol yn un o brif achosion marwolaeth a salwch yng Nghymru, gyda 535 o farwolaethau cysylltiedig ag alcohol yng Nghymru yn 2018, a bron 60,000 o dderbyniadau i’r ysbyty wedi’u hachosi gan alcohol yn 2018-19.

Mae rhai rhanddeiliaid wedi gwneud y sylw bod posibilrwydd o gynnydd tymor byr yn y bobl sydd angen cefnogaeth ychwanegol ac sy’n ceisio cyngor pan gaiff isafbris ei gyflwyno. Mae rhagor o wybodaeth allweddol am y gyfraith, a gwybodaeth ynghylch sut mae cefnogi eraill gyda’r newid, yma.