NAWR AN AGOR

Mae arolwg ar-lein newydd wedi cael ei lansio, fel rhan o’r ‘Sgwrs Fawr’ gyda rhieni a gofalwyr ledled Cymru. Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i rieni, gwarcheidwaid a gofalwyr rannu eu profiadau a helpu i lunio cefnogaeth i deuluoedd yn y dyfodol.

Dan arweiniad Plant yng Nghymru, menter genedlaethol yw’r Sgwrs Fawr’ a luniwyd i gasglu cipolygon go iawn ar brofiadau rhieni. Mae’n canolbwyntio ar faterion allweddol sy’n effeithio ar hawliau plant, llesiant rhieni a bywyd y teulu.

Rydyn ni eisiau clywed beth sy’n bwysig i chi. P’un ai heriau rydych chi wedi’u hwynebu, cefnogaeth rydych chi wedi’i derbyn, neu newidiadau hoffech chi weld, mae eich llais chi’n bwysig.

Cymerwch 15 munud i gwblhau’r arolwg ac fe rown ni eich enw mewn cystadleuaeth i ennill taleb Amazon £50.

Cliciwch yma i gymryd rhan yn yr arolwg

Pwy sy’n gallu cymryd rhan?

Unrhyw riant, gwarcheidwad, neu ofalydd plentyn o dan 18 oed sy’n byw yng Nghymru.

Helpwch ni i roi’r gair ar led trwy rannu’r arolwg gyda ffrindiau, ysgolion a grwpiau rhieni yn eich cymuned.

Bydd eich adborth yn helpu i lunio adroddiad byr fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref. Caiff yr adroddiad hwnnw ei rannu gydag awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaeth a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod eich profiadau’n helpu i ddylanwadu ar newid ystyrlon, cadarnhaol. 

Bydd yr arolwg yn cau ar 15 Awst 2025, felly peidiwch â cholli’ch cyfle i gymryd rhan!

Bydd Telerau ac Amodau’n berthnasol.