"Rwyf yn falch i lawnsio Gweledigaeth a Chenhadaeth newydd wrth edrych tuag at ddathlu 30 mlynedd fel elusen.

Cyd-gynhyrchwyd y datganiadau arweiniol hyn drwy broses drylwyr o gydweithio â’n haelodau, plant a phobl ifanc, a staff.

Mae ein Gweledigaeth a’n Cenhadaeth newydd yn adlewyrchu ein hanes balch a’n statws unigryw fel y sefydliad aelodaeth cynrychioliadol ar gyfer y sector plant a theuluoedd yng Nghymru, tra hefyd yn edrych yn benderfynol tuag at y dyfodol a’r bennod nesaf ar gyfer datblygu hawliau plant ledled Cymru.

Yn ystod y broses gydgynhyrchu, daeth y sylw mwyaf cofiadwy i mi gan berson ifanc, a ddywedodd y dylai’r datganiadau ‘roi synnwyr o obaith’ a ‘bod yn gadarnhaol am ein dyfodol’. Rwy’n gobeithio ein bod wedi cyflawni hyn gyda’n datganiadau.

Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda'n haelodau i symud ymlaen, byw a chyflawni ein datganiadau Gweledigaeth a Chenhadaeth." - Owen Evans, CEO

Gweledigaeth:

Adeiladu Cymru lle mae holl hawliau pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu cyflawni.

Ein Cenhadaeth:

Plant yng Nghymru yw’r sefydliad aelodaeth cynrychioliadol cenedlaethol ar gyfer unigolion a sefydliadau o bob sector sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. Daw ein haelodaeth o’r sectorau cyhoeddus, elusennol/di-elw ac annibynnol yng Nghymru. Bydd ein gwaith yn cael ei danategu gan ddull cydweithredol, sy'n hwyluso cyfleoedd i'n haelodau, plant a phobl ifanc.

Byddwn yn gweithio tuag at ein gweledigaeth mewn cydweithrediad â’n haelodau drwy:

• Ymgyrchu dros fabwysiadu a gweithredu llawn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ar bob lefel o gymdeithas Cymru.

• Herio anghydraddoldebau a hyrwyddo tegwch i holl blant a phobl ifanc Cymru.

• Dod â llais cyfunol at ei gilydd ar gyfer newid trawsnewidiol ar lefel polisi yng Nghymru.

• Hyrwyddo a chefnogi cyfranogiad plant a phobl ifanc o fewn strwythurau penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru.

• Darparu llwyfan ar gyfer rhannu arfer arloesol ledled Cymru.

• Eirioli dros y sector(au) plant ar feysydd blaenoriaeth.

• Darparu cyfleoedd dysgu a datblygu ar gyfer y gweithlu proffesiynol plant traws-sector.

• Ymgymryd ag ymchwil, a’i lledaenu ar draws ein haelodaeth.