Mae Plant yng Nghymru yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn gofod3, y digwyddiad sector gwirfoddol mwyaf o'i fath yng Nghymru. Trefnir gofod3 gan CGGC ar y cyd â’r sector gwirfoddol yng Nghymru, ac yn cael ei gynnal ar-lein dros bum niwrnod o’r 20-24 Mehefin 2022

Gyda mwy na 70 o ddigwyddiadau AM DDIM i ddewis ohonynt, gan gynnwys amserlen gyffrous a phrysur o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, dadleuon panel a gweithdai, mae rhywbeth i bawb. Mae Plant yng Nghymru yn falch iawn o fod yn cynnal TRI DIGWYDDIAD yn gofod3 a byddwn yn cynnig y canlynol: 

Cefnogi Iechyd Meddwl a Lles Pobl Ifanc

  • Dyddiad: Dydd Llun, 20 Mehefin 2022
  • Amser: 2.00 – 3.00pm
     

Hawliau Plant a Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Cymru

  • Dyddiad: Dydd Mawrth, 21 Mehefin 2022
  • Amser: 12.00 – 1.00pm
     

Hanfodion Diogelu – gwneud pethau'n iawn mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym

  • Dyddiad: Dydd Mawrth, 24 Mehefin 2022
  • Amser: 10.00 – 11.00am
     

Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwyr neu’n bob un o’r rhain, gofod3 yw eich gofod unigryw i fyfyrio, dysgu a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Gallwch weld y rhaglen lawn a darganfod mwy drwy ymweld â gofod3.cymru 

Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!