Plant yng Nghymru – Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Bydd croeso i’r holl aelodau yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Plant yng Nghymru, a gynhelir ddydd Mercher 12 Hydref 2022 am 3.30pm.  Eleni, gallwch fod yn bresennol trwy ddod i’n swyddfeydd yn 21 Plas Windsor, Caerdydd neu dros Zoom.  

Hwn fydd y cyfarfod olaf ar gyfer ein Cadeirydd presennol, Dave Williams, a fydd yn gadael y swydd ar ôl dau dymor llawn o wasanaeth. Ar hyd ei gyfnod yn y swydd, mae Dave bob amser wedi dangos ei ymrwymiad cadarn i hawliau a llais plant – roedd yn falch iawn bod ei weithle, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ymhlith y rhai cyntaf i dderbyn y Dyfarniad Nod Barcud am gyfranogiad. Yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd, mae Dave wedi’n tywys trwy heriau COVID, yn ogystal ag arwain a goruchwylio’r sefydliad yn ystod newidiadau pwysig gyda Phrif Swyddog Gweithredol newydd. Mae Plant yng Nghymru wedi gwerthfawrogi’n fawr gefnogaeth Dave yn y cyfarfodydd niferus y bu yn eu cadeirio a’u mynychu ar ein rhan. Mae wedi bod yn Gadeirydd ardderchog, a byddwn ni’n gweld ei eisiau’n fawr. Cyhoeddir pwy yw.r Cadeirydd newydd yn y CCB.

Os hoffech chi fynychu’r CCB, cysylltwch â Caroline Taylor, a fydd yn anfon y manylion ymuno atoch chi. Os na fedrwch fod yn bresennol, bydden ni’n ddiolchgar dros ben petaech yn llenwi Ffurflen pleidlais brocsi, fydd yn ein helpu i ffurfio cworwm er mwyn gallu cymeradwyo’r cyfrifon blynyddol ac eitemau eraill ar yr agenda.

Cewch hyd i’r agenda a’r papurau trwy glicio isod. 

Agenda 2022      Annual Report and Financial Statements for the Year