Rydym yn falch o gyhoeddi bod Cam 2 o’n prosiect ymchwil cyfoedion bellach ar waith.

Bydd yr ymchwil hwn yn edrych ar y rhwystrau y mae pobl ifanc yng Nghymru yn eu hwynebu wrth geisio byw bywyd cynaliadwy.

Yn gynharach eleni, daethom â grŵp o 12 o bobl ifanc ynghyd i’w hyfforddi i ddod yn ymchwilwyr cyfoedion ac archwilio’r pwnc newid yn yr hinsawdd. Cydweithion nhw gyda staff Plant yng Nghrymu ac ymgynghorydd dulliau ymchwilio i ddatblygu cynllun ar gyfer y prosiect hwn. Yn ystod y cam hwn, dysgodd y bobl ifanc sut i gynnal ymchwil a phenderfynon nhw beth roedden nhw am ei archwilio a sut i wneud hynny. Penderfynodd y bobl ifanc eu bod am gynnal arolwg a rhai grwpiau ffocws er mwyn deall beth sy’n atal pobl ifanc rhag byw bywyd cynaliadwy. Roedd hyn yn cynnwys ffactorau fel oed, diwylliant ac ardal o Gymru. Cytunodd y grŵp bod angen ffocws arbennig ar sut mae cost yn effeithio ar ddewisiadau pobl yn y maes hwn. Yn seiliedig ar y gwaith gwych a gwblhawyd gan y bobl ifanc yn ystod cam 1, byddwn nawr yn cefnogi’r grŵp i gynnal yr ymchwil hwn.

Rydym yn edrych ymlaen at rannu canlyniadau’r ymchwil hwn – gwyliwch y gwagle! Os hoffech chi ddysgu mwy am y gwaith yma, mae croeso i chi gysylltu – info@childreninwales.org.uk

Caiff y prosiect hwn ei ariannu gan Community Knowledge Fund sy’n ein cefnogi i gyflawni’r cynlluniau y buom yn gweithio arnynt yng Ngham 1. Mae’r Young Foundation ac UKRI wedi’u cyffroi gan y syniad o bobl ifanc yn parhau i yrru’r gwaith hwn ymlaen.

shutterstock_1513189952.jpg