Plant yng Nghymru yn lansio’r adroddiad ar ganfyddiadau ein 6ed arolygon Blynyddol Tlodi Plant a Theuluoedd.

Nod y 2 arolwg oedd deall mwy am y materion mae plant, pobl ifanc a theuluoedd yn eu hwynebu ar hyn o bryd, effaith hynny arnynt, ac yn bwysig, clywed barn y plant a’r bobl ifanc eu hunain.

Mae profiadau ymarferwyr a phobl broffesiynol sy’n gweithio gyda mwy na 41,500 o deuluoedd yn dangos bod y sefyllfa’n dirywio’n gyflym. Maen nhw’n credu ein bod bellach wedi cyrraedd lefel “gritigol” a bod llawer o blant, pobl ifanc a’u teuluoedd mewn “argyfwng llwyr” ar hyn o bryd.

Dywedodd Karen McFarlane, Swyddog Polisi ar gyfer Tlodi ac awdur yr adroddiad:

“Mae tua 34% o blant a phobl ifanc Cymru yn awr yn byw mewn tlodi. Gall effeithiau tlodi fod yn bellgyrhaeddol a chyffwrdd â phob agwedd ar fywydau plant. Y funud hon, wrth i chi ddarllen, mae llawer o deuluoedd yng Nghymru yn gorfod penderfynu bwydo eu plant neu ddefnyddio trydan. Nid yw’n syndod, felly, bod y canfyddiadau’n dangos mwy o ddyled, tlodi bwyd a thanwydd, a chynnydd dramatig o ran iechyd emosiynol gwael, nid ymhlith rhieni’n unig, ond hefyd ymhlith plant a phobl ifanc eu hunain”.

Roedd yr arolwg yn gofyn i ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol gymharu’r sefyllfa â’r llynedd. Adroddodd mwyafrif llethol (94%) ohonynt fod y sefyllfa wedi gwaethygu. Y prif faterion a godwyd oedd costau byw cynyddol; dyled; tlodi bwyd a thanwydd a chynnydd dramatig o ran iechyd meddwl gwael. Caiff llawer o ganfyddiadau’r ymarferwyr eu hadleisio yn yr arolwg plant a phobl ifanc, lle maen nhw’n trafod teimladau “trist” a “phryderus”; bwlio ac ynysu cysylltiedig â thlodi; bod yn llwglyd; ac anghydraddoldeb ym myd addysg.

“Gorfod symud, Mam yn methu talu’r biliau. Dim digon o fwyd. Ar fy mhen fy hun llawer er mwyn i Mam gael gweithio.” (10-13oed)

I gael rhagor o wybodaeth am yr adroddiad a’i ganfyddiadau, cysylltwch â Karen.McFarlane@childreninwales.org.uk