Mae Plant yng Nghymru, mewn partneriaeth â Chyswllt Rhieni Cymru a Phrifysgol De Cymru, wedi lansio ymchwil newydd sy’n archwilio profiadau a chyfraniadau tadau ledled Cymru.  

Teitl yr astudiaeth yw ‘Pŵer i’r Tadau: Archwiliad Dulliau Cymysg o Lais Tadau, eu Cyfranogiad, eu Dealltwriaeth o Hawliau Plant a’r Gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw’, ac mae’n archwilio teimladau tadau am eu rôl, y gefnogaeth maen nhw’n ei derbyn, a’u hymwybyddiaeth o hawliau plant.  

Gyda chefnogaeth Cyswllt Rhieni Cymru, roedd yr ymchwil yn cynnwys 97 o dadau, oedd yn cynrychioli profiadau mwy na 200 o blant. Mae’n dangos, er bod y rhan fwyaf o dadau eisiau chwarae rhan weithredol ym mywydau eu plant, fod llawer yn dal i deimlo nad ydyn nhw’n cael eu clywed na’u gwerthfawrogi gan weithwyr proffesiynol a’r gymdeithas ehangach.  

Mae tadau eisiau cael eu clywed a’u cynnwys 

Dywedodd un o bob pump o’r tadau fod eu lleisiau ddim yn cael eu clywed, yn enwedig mewn teuluoedd oedd wedi gwahanu neu gyfuno. Roedd llawer yn teimlo bod gweithwyr proffesiynol yn eu diystyru, yn enwedig mewn ysgolion ac ym maes gofal iechyd, lle mae mamau yn aml yn brif gyswllt. Er gwaethaf hynny, dywedodd 74 y cant eu bod yn cyfrannu at benderfyniadau, ac mae 92 o’r farn eu bod yn cyflawni rôl bwysig yn cefnogi lles pennaf eu plant. Serch hynny, dywedodd bron hanner ohonyn nhw fod angen gwneud mwy i gydnabod eu lleisiau.  

Mae ymwybyddiaeth o hawliau plant yn dal yn isel 

Dywedodd ychydig dros hanner y tadau eu bod yn deall hawliau plant, ond doedd 52 y cant erioed wedi clywed am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Roedd y rhai oedd yn gyfarwydd â CCUHP yn tueddu i fod yn fwy hyderus wrth ddadlau o blaid lles a hawliau eu plant.   

Rhwystrau a stigma 

Mae’r astudiaeth hefyd yn amlygu stigma parhaus ynghylch dynion sy’n gofyn am help. Dywedodd mwy na thraean o’r tadau nad oedden nhw’n derbyn unrhyw gefnogaeth swyddogol, a’u bod yn dibynnu’n bennaf ar bartneriaid, teulu neu ffrindiau. Roedd llawer ohonyn nhw am gael mannau diogel, anfeirniadol i rannu profiadau a meithrin hyder, tra mynegodd eraill bryderon y gallai stigma, pwysau amser a theimlo’n anghysurus ynghylch siarad yn agored eu hatal rhag cyrchu cymorth.  

Prif argymhellion 

Mae’r adroddiad yn amlinellu camau gweithredu ymarferol o ran polisi ac ymarfer, sy’n cynnwys: 

  • Cynyddu cyfnod tadolaeth i helpu tadau i feithrin perthynas â’u babanod 

  • Cynnwys a chefnogi tadau o ddechrau eu taith at fod yn rhieni 

  • Darparu cyfleoedd i leisiau tadau ddylanwadu ar bolisi’r llywodraeth 

  • Cynhyrchu adnoddau magu plant ar y cyd â thadau, ar gyfer tadau  

  • Cynnig hyfforddiant proffesiynol ar ymgysylltu â thadau fel rhoddwyr gofal cyfartal 

  • Hyrwyddo delweddau cadarnhaol a chynhwysol o dadau 

Ymchwil gydweithredol a’r camau nesaf 

Datblygwyd y prosiect hwn trwy gydweithrediad Prifysgol De Cymru, Plant yng Nghymru a Chyswllt Rhieni Cymru. Nododd Cyswllt Rhieni Cymru fylchau allweddol yn yr ymchwil a rhoi’r Brifysgol mewn cysylltiad â For Dads, by Dads yn Nhorfaen, dan arweiniad Jacob Guy. 

Bydd cyfnod nesaf y gwaith ymchwil yn gwerthuso rhaglenni cefnogi tadau fel For Dads, by Dads a Grŵp Tadau Gwent, sy’n cefnogi tadau plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau. Bydd cyfweliadau pellach yn archwilio profiadau tadau o fod yn dad a rhwystrau i gyrchu cefnogaeth.  

Cydnabod rôl tadau a chydraddoldeb 

Dywedodd Dr Klara Price o Brifysgol De Cymru:

“Mae’r ymchwil yma’n dangos bod tadau ledled Cymru eisiau cael eu clywed, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi. Trwy wrando ar eu lleisiau, gallwn ni ddatblygu cefnogaeth sy’n adlewyrchu realiti bod yn dad yn y cyfnod modern, ac yn cryfhau hawliau plant.” 

Ychwanegodd Anna Westall, Rheolwr Tîm Polisi Plant yng Nghymru:

"Drwy dynnu sylw at brofiadau tadau ledled Cymru, mae’r astudiaeth yn cynnig camau clir i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi, eu cynnwys a’u grymuso fel partneriaid cyfartal mewn rhianta. Mae gwrando ar leisiau tadau a mynd i’r afael â’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu yn helpu i greu amgylchedd rhianta lle mae pob plentyn yn elwa o dadau hyderus, sy’n cymryd rhan ac sy’n cael eu cefnogi.”  

Cysylltiadau allweddol y prosiect: 
Dr Klara Price – klara.price@southwales.ac.uk 
Anna Westall – anna.westall@childreninwales.org.uk 

Mae’r crynodeb isod yn rhoi cipolwg ar brif ganfyddiadau’r ymchwil ac yn helpu’r darllenydd i’w deall yn gyflym, yn ogystal â goblygiadau Polisi ac Ymarfer yr ymchwil.

Crynodeb Polisi

‘Pŵer i’r Tadau: Archwiliad Dulliau Cymysg o Lais Tadau, eu Cyfranogiad, eu Dealltwriaeth o Hawliau Plant a’r Gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw’