Mae cyfnod yr Athro Sally Holland fel Comisiynydd Plant Cymru wedi dod i ben yn dilyn saith mlynedd lwyddiannus yn y swydd. Mae hi wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r agenda hawliau plant yng Nghymru.

Fel comisiynydd plant, mae’r Athro Holland wedi gwrando ar blant a phobl ifanc ac wedi gweithredu ar yr hyn a oedd ganddynt i’w ddweud. Er mwyn llywio ei chyfnod yn y swydd, lansiodd yr Athro Holland yr ymgynghoriad Beth Nesa yng Nghymru, yn gofyn i blant roi eu safbwyntiau ar ei blaenoriaethau. Gyda mwy na 25,000 o ymatebion, defnyddiodd leisiau a blaenoriaethau plant a phobl ifanc yn sail i’w gwaith.

Mae ei ffocws ar siarad â phlant a phobl ifanc a chanfod beth y maent yn ei feddwl wedi nodweddu ei chyfnod fel comisiynydd. Mae hyn wedi bod yn arbennig o amlwg yn ystod y pandemig ac wrth iddi ddatblygu’r arolwg Coronafeirws a Fi. Yn sgil hyn, roedd modd i’r comisiynydd plant weithio mewn partneriaeth unigryw gyda Llywodraeth Cymru, Plant yng Nghymru a Senedd Ieuenctid Cymru i sicrhau y gallai plant a phobl ifanc ddweud wrthym sut yr oedd y pandemig yn effeithio ar eu bywydau. Cafwyd mwy na 43,000 o ymatebion i’r arolygon hyn a chawsant eu cymeradwyo gan UNICEF, gan helpu i lywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru.

Mae ymrwymiad yr Athro Holland i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ac i godi ymwybyddiaeth o hawliau plant, i’w weld drwy ei gwaith o ddatblygu a chyflwyno Y Ffordd Gywir, adnodd sy’n dwyn ynghyd ddull strategol o ymgorffori hawliau plant.

Mae’r Athro Holland yn dychwelyd i Brifysgol Caerdydd a bydd Rocio Cifuentes yn ei holynu, gan ddechrau yn ei swydd fel Comisiynydd Plant newydd Cymru heddiw.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.

Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant – Comisiynydd Plant Cymru (complantcymru.org.uk)