Mae Plant yng Nghymru, mewn cydweithrediad â Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi lansio prosiect newydd cyffrous â'r nod o rymuso lleisiau ifanc i lunio dyfodol pêl-droed yng Nghymru.

Nod y fenter yw cefnogi Cyngor Ieuenctid Cenedlaethol CBDC i gymryd rhan yn y prosesau gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bêl-droed. Rôl y Cyngor Ieuenctid Cenedlaethol a’i aelodau yw cynrychioli llais plant a phobl ifanc gan roi cyngor ar bolisi a datblygiad pêl-droed yng Nghymru. Bydd y Cyngor Ieuenctid Cenedlaethol yn rhan annatod o sefydlu Cynghorau Ieuenctid rhanbarthol ledled Cymru, gan ddylanwadu ar bolisïau a phrosesau gwneud penderfyniadau ar bob lefel ynghyd â chefnogi'r gwaith o drefnu a chyflwyno cynhadledd Ieuenctid flynyddol CBDC.

Ddydd Sadwrn diwethaf cynhaliodd CBDC gyfarfod wyneb yn wyneb yn ei Phencadlys ym Mro Morgannwg yn Hensol, gan ddod â Plant yng Nghymru, aelodau allweddol o Gymdeithas Bêl-droed Cymru ac aelodau presennol y Cyngor Ieuenctid Cenedlaethol ynghyd. Roedd yr awyrgylch yn un llawn cyffro wrth i’r mynychwyr drafod yn eiddgar ddyfodol posibl y Cyngor Ieuenctid Cenedlaethol a sut y gall sicrhau newid cadarnhaol ym mhêl-droed Cymru. Aeth Plant yng Nghymru i'r digwyddiad gan gynnig eu gwybodaeth arbenigol mewn ymgysylltu a chyfranogiad ieuenctid.

Wrth wraidd y prosiect mae’r gred y dylai pobl ifanc gael llais oherwydd bod eu safbwyntiau, eu mewnwelediadau, a’u profiadau yn amhrisiadwy wrth lunio cymdeithas fwy cynhwysol, teg a chynrychioliadol.  Trwy sefydlu’r Cyngor Ieuenctid Cenedlaethol, mae Plant yng Nghymru a CBDC yn ceisio creu gofod lle gall unigolion ifanc leisio’u barn, rhannu syniadau, a dylanwadu ar gyfeiriad mentrau pêl-droed ar lefel leol a chenedlaethol.

Gyda chefnogaeth Plant yng Nghymru a CBDC, mae’r Cyngor Ieuenctid Cenedlaethol ar fin dod yn sbardun ar gyfer dilyniant ac arloesedd ym mhêl-droed Cymru, gan sicrhau bod y gamp yn parhau’n fywiog, yn gynhwysol, ac yn adlewyrchu gwerthoedd ei chyfranogwyr.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn falch o fod yn gweithio gyda Plant yng Nghymru ar y fenter arloesol hon, gan sicrhau lle blaenllaw i bobl ifanc o ran gwneud penderfyniadau. Trwy'r Cynghorau Ieuenctid Cenedlaethol a Rhanbarthol, bydd arweinwyr ifanc yn arwain polisi, yn ysgogi datblygiad, ac yn hybu newid cadarnhaol ledled y wlad. Gydag angerdd a phwrpas, gyda’n gilydd rydym yn adeiladu cymuned bêl-droed fwy cynhwysol a bywiog, lle mae pob llais yn bwysig.” - Jason Webber, Uwch Reolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chynaliadwyedd, Cymdeithas Bêl-droed Cymru / Carys Ingram Gweithredwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chynaliadwyedd, Cymdeithas Bêl-droed Cymru

         

FAW notebook and mug
FAW logo
Football