Ewch i'n tudalennau Plant a Phobl Ifanc i ddysgu mwy am Hawliau Plant, Cymru Ifanc a phrosiectau eraill y gall Plant a Phobl Ifanc gymryd rhan ynddynt.
Darganfyddwch fwy
Dysgu | Cysylltu | Dylanwadu
Mae’r 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd baban yn gosod sylfeini hollbwysig i ddatblygiad corfforol, emosiynol a chymdeithasol, gyda goblygiadau parhaol ar gyfer lles. Yn 2024, cyflwynodd Plant yng Nghymru ei ymateb "llais y baban" i strategaeth iechyd meddwl ddrafft Llywodraeth Cymru, gan amlygu bod angen ymyrraeth gynnar gryfach, gwell cefnogaeth i’r berthynas rhwng rhieni a babanod, a mynediad cyfartal at wasanaethau arbenigol. Mae'r briff hwn yn ailadrodd y blaenoriaethau hynny ac yn nodi'r Adduned i Fabanod yng Nghymru sef fframwaith i sicrhau bod babanod yn cael eu clywed, eu cefnogi a’u diogelu.