Cynhaliwyd cynhadledd y Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar (CREYN) yng Nghaerdydd ar 21 Mai 2025, gan ddod â chynrychiolwyr ynghyd o bob rhan o Gymru i arddangos a dathlu’r ymchwil a’r ymarfer sy’n cefnogi hawliau yn y blynyddoedd cynnar.
Dechreuodd y diwrnod trwy lansio’r Adduned i Fabanod yng Nghymru, galwad bwysig i weithredu i bob unigolyn, gweithiwr proffesiynol a sefydliad sy’n ymwneud â bywydau babanod. Mae’r Adduned yn gwahodd pawb sy’n gweithio gyda babanod a’u teuluoedd i gydnabod, gwerthfawrogi ac ymateb i brofiadau a phersbectif unigryw babanod ym mhob penderfyniad sy’n effeithio arnyn nhw. Mae’n amlygu pwysigrwydd cydnabod llais ac anghenion y baban, ac yn nodi cam pwysig ymlaen wrth gydnabod ac ymateb i hawliau unigryw babanod ledled Cymru.
Yna aeth yr Athro Jane Murray â’r cynadleddwyr ar daith feddylgar trwy stori hawliau plant hyd yma, gan fyfyrio ar y cynnydd a wnaed, y rhwystrau sy’n dal i fodoli, a’r posibiliadau i’r dyfodol a allai helpu i wireddu hawliau ein plant ifancaf.
Amlinellodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden, y gwaith sy’n cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru i gefnogi babanod a phlant ifanc, gan ategu ymrwymiad y Llywodraeth i greu Cymru lle mae pob plentyn yn gwybod am eu hawliau ac yn eu mwynhau.
Bu’r Athro Jane Williams yn ein hatgoffa fod ymarfer sy’n cael ei lywio gan ymchwil yn hanfodol mewn gwaith blynyddoedd cynnar. Pwysleisiodd fod hawliau plant yn ffurfio ein dealltwriaeth a’n defnydd o ymchwil, yn tywys ein gweithredu ac yn adlewyrchu ein gwerthoedd. Yng Nghymru, mae’r ymrwymiad hwn i ymarfer seiliedig ar hawliau sy’n cael ei lywio gan ymchwil yn galw am ddysgu, ymrwymiad a ffydd yn barhaus.
Cafodd y cynadleddwyr gyfle hefyd i fynychu dau o blith nifer o weithdai difyr, ymarferol. Roedd y rhain yn archwilio amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys sesiynau seiliedig ar symud, adeiladu nyth, adnoddau rhyngweithiol a rhyngweithio yn y feithrinfa, a ffyrdd o roi llais i blant ifanc mewn rhaglenni cymunedol. Roedd y gweithdai’n ysbrydoliaeth i fyfyrio ar themâu cymuned, gofal a chyfrifoldeb ar y cyd.
Amlygodd adborth gan y cynadleddwyr yr ysbrydoliaeth, y mewnwelediad a’r syniadau ymarferol gawson nhw yn dilyn y diwrnod:
“Roedd yn help mawr cael rhywle i ganolbwyntio ar fabanod a’u hawliau.”
“Clywed y ddealltwriaeth a’r ymarfer diweddaraf.”
“Hanes gwych am hawliau plant.”
“Fe wnes i fwynhau’r cynnwys a’r agwedd gadarnhaol yn fawr.”
Hoffai Plant yng Nghymru a Phrifysgol Abertawe ddiolch i’r holl siaradwyr a chynhalwyr y gweithdai am eu cyfraniadau neilltuol i’r diwrnod.
Os hoffech chi ymuno â’r Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar (CREYN), cysylltwch â’r canlynol a Anna neu Jacky Tyrie.
anna.westall@childreninwales.org.uk
I gael rhagor o wybodaeth am yr Adduned i Fabanod yng Nghymru, ewch i: Plant yng Nghymru | Llais y Baban