Hei bobl ifanc 11-25 oed yng Nghymru! – Rydyn ni am wybod beth mae Hawliau Plant yng Nghymru yn ei olygu i chi.

Mae tîm Cymru Ifanc yn gweithio gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru a grŵp o wirfoddolwyr ifanc i greu arddangosfa dros dro ynglŷn â Hawliau Plant, ac mae angen cymorth pobl ifanc 11-25 oed ledled Cymru arnon ni!

Os hoffech chi gynhyrchu darn o waith ynglŷn â ‘Beth mae Hawliau Plant yng Nghymru yn ei olygu i chi?’, bydden ni wrth ein bodd yn ei gynnwys yn ein harddangosfa dros dro ar daith.

Gallai eich cyfraniad fod ar unrhyw ffurf, mewn unrhyw iaith, ond mae’n rhaid iddo fod yn greadigol – er enghraifft, darn o farddoniaeth, fideo, cerflun, darlun, ffotograffiaeth ac ati. Croesawir pob dehongliad, rhowch eich stamp eich hun arno!

Mae’r canllawiau canlynol yn berthnasol fodd bynnag:

  • Caniateir darnau ysgrifenedig sy’n cynnwys mwyafswm o 100 o eiriau.
  • Ni ddylai fideos fod yn hirach nag 1 funud, a dylid eu recordio ar ffurf tirlun.
  • Ni chaiff darnau materol fod yn fwy na maint darn o bapur A3.
  • Mwyafswm o 8 cyfraniad fesul sefydliad.

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld eich cynigion! Anfonwch ddiweddariadau aton ni trwy’r e-bost, neu trwy ein tagio ni ar Twitter @YoungWalesCIW, gan ddefnyddio’r hashnodau #ChildrensRightsToMe #HawliauPlantIMi.

Anfonwch eich cyfraniadau trwy’r post neu’r e-bost erbyn dydd Sadwrn 2 Gorffennaf, er mwyn i’ch gwaith gael ei gynnwys yn yr arddangosfa. Nodwch y gallwn ad-dalu costau postio os bydd angen i chi bostio darn materol o waith aton ni.

Defnyddiwch yr wybodaeth ganlynol i gyflwyno eich gwaith, neu i ofyn unrhyw gwestiynau a all fod gennych:

E-bost: frances.hoey@childreninwales.org.uk

Cyfeiriad: Tîm Cymru Ifanc, Plant yng Nghymru, 21 Plas Windsor, Caerdydd, De Cymru, CF10 3BY.

Nodwch yn glir fod eich neges e-bost/parsel yn gyfraniad i’r Prosiect Amgueddfa Hawliau Plant, a nodwch pwy sydd wedi creu’r darn. Diolch.