Darllenwch y cylchgrawn yma
Mae ein rhifyn Haf 2026 yn tynnu sylw at Erthygl 20 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), gan archwilio hawliau plant na allant fyw gyda’u teuluoedd eu hunain i gael gofal amgen priodol, ynghyd â’r amddiffyniad a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu.
Yn Plant yng Nghymru gwyddom fod newid ystyrlon a pharhaol i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn digwydd pan fydd pawb yn gweithio gyda’i gilydd, pan wrandewir ar leisiau plant a gweithredu arnynt, a phan roddir eu hawliau wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Ers mwy na 30 mlynedd, mae ein gwaith wedi’i arwain gan gred syml ond hanfodol: y dylai’r CCUHP fod yn realiti byw i bob plentyn yng Nghymru.
Mae'r rhifyn hwn yn adlewyrchu ehangder y gwaith sy'n digwydd ar draws ein haelodaeth i wireddu'r weledigaeth honno. Trwy enghreifftiau ymarferol, mewnwelediad proffesiynol, myfyrdod personol a phrofiad byw, mae'r cylchgrawn yn archwilio'r hyn sydd ei angen i gefnogi plant a phobl ifanc sydd a phrofiad o ofal i ffynnu. Mae'r straeon a rennir yn ysbrydoledig, yn ysgogi meddwl ac yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan gaiff hawliau plant eu parchu, eu diogelu a'u cyflawni.
Rydym yn hynod ddiolchgar i'n holl aelodau sydd wedi cyfrannu at y rhifyn hwn, gan arddangos yr ymroddiad, y tosturi a'r arloesedd sy'n sail i'w gwaith gyda phlant a phobl ifanc sydd a phrofiad o ofal. Rydym yn falch o rannu'r straeon hyn a dathlu'r gwahaniaeth rydych chi'n ei wneud i hawliau plant ledled Cymru.
Hoffem hefyd estyn ein diolch diffuant i Delyth Jewell MS, Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, ac i Clearcare Solutions a Techsol am eu cyfraniadau gwerthfawr at y rhifyn hwn.